Alert Section

Amdanon Ni

Mae Sir y Fflint, fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn gyngor sy'n perfformio'n dda ac sy'n adnabyddus am arloesi mewn gwasanaethau. 

Rydym yn falch o'n hanes o amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaeth yn y gymuned yn ystod cyfnod hir o lymder.

Rydym yn meddwl ymlaen , yn gadarnhaol am botensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn barhaus ac wedi gweithredu gydag angerdd a chadernid i gyflawni ein llwyddiant.

Adeiladu ar ein llwyddiant

Yr un peth ydi arloesi a Chyngor Sir y Fflint yn y pendraw.

Yma yn Sir y Fflint rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau lleol i bobl leol a gweithio’n agos gyda chymunedau, partneriaid, busnesau a gweithwyr er mwyn darparu amrywiaeth o wasanaethau newydd, arloesol a chynaliadwy.

Ers degawd a mwy mae Cyngor Sir y Fflint, fel pob cyngor arall yn y Deyrnas Unedig, wedi bod yn rheoli goblygiadau’r gostyngiadau blynyddol yng nghyllid Llywodraeth Cymru a’r DU.

Hyd yn oed yn ystod y caledi presennol, mae’r Cyngor yn parhau i fod yn uchelgeisiol. 

Beth rydym yn ei wneud

Mae Cyngor Sir y Fflint yn darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol ar gyfer 155,100 o bobl sy’n byw ar 71,267 o aelwydydd.

Rydym yn cyflogi 6,113 aelod o staff, sy’n golygu mai’r Cyngor yw’r ail gyflogwr mwyaf yn y Sir, ac mae’r gwasanaethau a ddarparwn yn cynnwys, addysg, tai, hamdden, llyfrgelloedd, cynllunio, casglu sbwriel, iechyd yr amgylchedd, ailgylchu, ffyrdd, gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, trafnidiaeth a thwristiaeth.

Mae 78 o ysgolion yn Sir y Fflint (64 o rai Cynradd, 11 Uwchradd, 2 Arbenigol, 1 Uned Cyfeirio Disgyblion, ac mae 23,716 o ddisgyblion yn mynd iddynt.

Mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cymorth i fwy na 5000 o oedolion a 2000 o blant bob blwyddyn.

Mae gan Gyngor Sir y Fflint, saith llyfrgell, deg o ganolfannau chwaraeon a hamdden (wyth ohonynt dan reolaeth Aura Cymru a dwy wedi’u trosglwyddo fel Asedau Cymunedol), tri o barciau gwledig, ffermydd sirol ac mae’n cynnal 1174.8 km o ffyrdd.

Mae Tai ac Asedau yn rheoli ac yn cynnal a chadw oddeutu 7312 o eiddo y mae’r cyngor yn berchen arnynt, gan gynnwys 1460 o eiddo gwarchod..

Ein Lle yng Nghymru

Mae Sir y Fflint yn un o 22 awdurdod unedol yng Nghymru, a’r un mwyaf o ran poblogaeth yng ngogledd Cymru, a’r chweched drwy Gymru. Mae Sir y Fflint yn aelod gweithgar o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac mae nifer o’n huwch-swyddogion ac aelodau etholedig mewn swyddi amlwg yn genedlaethol wrth weithio mewn cenedl ddatganoledig. 

Sir y Fflint sy’n arwain neu’n cyd-arwain nifer o strategaethau a gwasanaethau cydweithredol yn y rhanbarth, gan gynnwys gwasanaethau awtistiaeth, gwasanaethau i’r rhai hynny sydd mewn perygl o gam-drin domestig, diogelwch cymunedol, cynllunio at argyfwng, cynllunio mwynau a gwastraff, twf economaidd a thrin a gwaredu gwastraff.

Mae pobl yn ystyried y Cyngor i fod yn gydweithiwr cadarnhaol sy’n agored i weithio mewn partneriaeth er mwyn sicrhau gwerth i’r cyhoedd.

Sut cawn ni ein llywodraethu

Mae gan Gyngor Sir y Fflint 67 o Gynghorwyr sy’n cael eu hethol yn ddemocrataidd bob pum mlynedd.  Ar hyn o bryd mae’n cael ei redeg gan weinyddiaeth Lafur lleiafrifol gyda chyfansoddiad gwleidyddol o: Llafur 31, Y Gynghrair Annibynnol 26, Ceidwadwyr 2, Y Democratiaid Rhyddfrydol 4, Eryr 3, ac 1 aelod heb eu halion. 

Mae gan y Cyngor Gabinet a swyddogaeth Craffu, mae penderfyniadau, yn y prif yn cael ei gwneud gan y Cabinet. Rôl y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yw dwyn y Cabinet i gyfrif a chynorthwyo i wella a datblygu polisïau a gwasanaethau'r Cyngor. 

Mae gan Sir y Fflint bum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu sy'n cynnwys:

  • Adnoddau Corfforaethol
  • Y Gymuned a Thai 
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Chymdeithasol a Gofal Iechyd

I gael rhagor o wybodaeth am drefniadau llywodraethu'r Cyngor, gweler Hafan y Cyngor a Democratiaeth.

Ein Perfformiad

Yn ddiweddar mae’r Cyngor wedi adolygu ac ail-gyhoeddi Cynllun y Cyngor.  Trwy symleiddio ac ailosod ei flaenoriaethau, mae’r Cynllun yn darparu cyfeiriad clir ar gyfer nodau’r Cyngor yn y dyfodol a’r gwaith sydd angen ei wneud er mwyn i hynny ddigwydd.  

Mae Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Cymdeithasol 2022/23 nid yn unig yn gwerthuso perfformiad yn erbyn blaenoriaethau gwella y flwyddyn flaenorol, mae hefyd yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer 2023/24. 

Fel sefydliad cyhoeddus mae’r Cyngor yn cael archwiliadau rheolaidd i archwilio a herio ei berfformiad a'i effeithiolrwydd.

Derbyniodd y Cyngor Grynodeb Archwilio Blynyddol ffafriol gan Archwilio Cymru ym mis Medi 2021. 

“Ardystiodd yr Archwilydd Cyffredinol fod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau o ran mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 am y flwyddyn ariannol 2021/22, fel y’u harbedwyd gan orchymyn a waned o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.”

Yn ystod ei arolygiad yn 2021, canfu Arolygiaeth Gofal Cymru (CSIW) fod gan y Cyngor gefnogaeth gorfforaethol a gwleidyddol dda ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant a dealltwriaeth drylwyr a datblygedig o'u cryfderau a'u heriau ac wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ataliad yn rhan gynhenid o'i fusnes.  Mae pobl yn ymwneud â chynllunio a darparu eu gwasanaethau gofal a chymorth. Maent yn cael ei chefnogi i nodi'r hyn sy'n bwysig iddynt a sut y gallent gyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Yn y rhan fwyaf o'r achosion yr ydym yn eu hadolygu, caiff canlyniadau eu disgrifio'n glir a nodir y camau i'w cyflawni.

Darganfuwyd bod partneriaethau'n gweithio'n dda ar bob lefel ac maent yn darparu dull cynaliadwy integredig o ddiwallu anghenion a hyrwyddo llesiant yn unol â deddfwriaeth a disgwyliadau. Yn yr achosion a adolygwyd gennym, gwelsom dystiolaeth o ymarferwyr yn datblygu perthynas waith proffesiynol â phobl a adeiladwyd ar gydweithredu i hyrwyddo annibyniaeth a datblygu dealltwriaeth gyffredin o'r hyn sy'n bwysig.

Nododd adolygiad diweddar a gynhaliwyd gan Estyn fod gan y Cyngor uchelgeisiau uchelgeisiol ar gyfer ei holl blant a phobl ifanc, yn adnabod ei ysgolion yn dda ac yn darparu her a chefnogaeth effeithiol iddynt.   Mae'n cydnabod bod Arweinwyr yn cydweithio'n dda i gydgysylltu cefnogaeth i blant a phobl ifanc ar draws ei wasanaethau, gyda lles dysgwyr yn flaenoriaeth. Mae ystod addas o gymorth priodol ar draws y gyfarwyddiaeth i ddysgwyr agored i niwed o fewn yr awdurdod ac mewn cydweithrediad â'r gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol a bod ymrwymiad clir i foderneiddio rhaglen fuddsoddi gan gynnwys datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ymateb i WESP.

Cydnabyddiaeth Genedlaethol

Nid yn unig fod y Cyngor yn cymharu’n dda â’i gymheiriaid, ond mae ei gyflawniadau cystal â llawer o gwmnïau eraill yn y sector cyhoeddus. 

Mae hyn yn cael ei gydnabod gan nifer o wobrau cenedlaethol, sy’n cynnwys addysg, gwasanaeth cymdeithasol, tai a phortffolios eraill er enghraifft.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth.

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn greiddiol i'r gwaith o hybu diwylliant cadarnhaol o gydweithio ac mae'n canolbwyntio ei egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i gymunedau lleol.

Partneriaeth rhwng y Cyngor, y Bwrdd Iechyd a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint yw Compact y Sector Gwirfoddol. Ei nod yw sicrhau fod y gwasanaethau cyhoeddus yn deall rôl y sector gwirfoddol yn iawn, a sicrhau y manteisir yn llawn ar gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.

Mae Sir y Fflint yn bartner blaenllaw mewn nifer o bartneriaethau rhanbarthol gan gynnwys Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru sy’n ddylanwadol iawn.

Mae ein huchelgais i lunio dyfodol gwasanaethau cyhoeddus yn golygu ein bod yn cymryd rhan mewn llawer o ddarnau cenedlaethol a rhanbarthol o waith. Ni yw'r gwesteiwr a/neu rydym yn cael ein cynrychioli ar nifer o wasanaethau cydweithredol rhanbarthol gan gynnwys:

  • Prosiect Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Cynllunio At Argyfwng Rhanbarthol – cynghorau Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru (gwesteio ar y cyd â BIP Betsi Cadwaladr)
  • Byrddau Diogelu Oedolion a Phlant – GC
  • Penaethiaid Gwasanaethau Oedolion – GC
  • Penaethiaid Gwasanaethau Plant 
  • Bwrdd Comisiynu – GC
  • Bwrdd y Gweithlu GC
  • Grŵp  Cyflawni Diogelu Sir y Flint a Wrecsam
  • Cadeiryddion ymadawol Bwrdd Contest Gogledd Cymru
  • Grŵp Cyflenwi Prevent a Chadeiyddion Sianel Gogledd Cymru

Rydym yn ymgysylltu’n llawn ag amrywiaeth o gyrff proffesiynol cenedlaethol megis:

  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Cymdeithas Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru
  • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol
Talacre Beach Sculpture 540 x 294

Ynglŷn â'r Rôl

Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol blaenllaw yng Nghymru a'r mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae gennym enw rhagorol ym meysydd tai cymdeithasol, datblygu cymunedol a lles.

Mae gennym gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a’i wasanaethau gydag ymddeoliad deilydd presennol y swydd ar fin digwydd.

Darganfod mwy 
Welsh Dragon
Welsh Dragon

Bywyd yn Sir y Fflint

Y 'porth' i Ogledd Cymru.

Mewn lleoliad delfrydol, mae gan Sir y Fflint rhywbeth i’w gynnig i bawb.

Darganfod mwy 
Beach 540 x 294