Y 'porth' i ogledd Cymru
Mae Sir y Fflint mewn lleoliad dethol, ac mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.
Mae cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych yn golygu mynediad hawdd i Gymru a gweddill y DU.
Mae ansawdd bywyd da yn Sir y Fflint oherwydd prisiau eiddo cystadleuol, cyfleusterau hamdden ac addysg o’r radd flaenaf, ynghyd â chefn gwlad hygyrch a llwybrau cerdded arfordirol.
Mae canol trefi Sir y Fflint yn cynnwys masnachwyr annibynnol a siopau’r stryd fawr, yn ogystal â marchnadoedd stryd bywiog a gwyliau arbenigol.
Mae cefn gwlad Sir y Fflint yn dirlun o amrywiaeth anhygoel, gyda digon i’w ddarganfod.
• Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
• Traeth arbennig Talacre, sydd wedi ennill gwobrau
• Henebion a chestyll
• Glannau afonydd tawel, coetiroedd hynafol, dyffrynnoedd coediog a thir fferm tonnog
• Arfordir sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, Afon Dyfrdwy a’i haber
• Mae dinas hanesyddol Caer a Pharc Cenedlaethol Eryri hefyd o fewn tafliad carreg
Darganfyddwch fwy am Sir y Fflint ac ardal Gogledd Ddwyrain Cymru drwy ymweld â:
www.cometo.wales neu
www.northeastwales.wales