Alert Section

Am y Rôl

Prif Swyddog, Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint

Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol blaenllaw yng Nghymru a'r mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae gennym enw rhagorol ym meysydd tai cymdeithasol, datblygu cymunedol a lles.

Mae gennym gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a’i wasanaethau gydag ymddeoliad deilydd presennol y swydd ar fin digwydd.

Fel rhan o uwch dîm agos ac effeithiol, byddwch yn helpu i ddatblygu ffocws corfforaethol cryf a diwylliant corfforaethol cydlynol ar draws yr awdurdod.

Gan weithio'n agos gyda'r Prif Weithredwr ac Arweinwyr y Cyngor byddwch yn adeiladu ar lwyddiannau'r Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, gan arwain newid er lles gorau'r Cyngor, cymunedau, a'r gweithlu mewn cyfnod o ddiwygio'r sector cyhoeddus a chyllid.

Mae'r portffolio wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a fydd yn gwella canlyniadau i blant, teuluoedd a phobl hŷn sydd angen gofal a chymorth.

Byddwch yn aelod allweddol o Dîm y Prif Swyddogion ac yn cyfrannu at lywodraethu a rheolaeth effeithiol y Cyngor y tu hwnt i'ch portffolio, gan gefnogi gwaith corfforaethol o ddiddordeb cyffredin.

Yn gyfrifol am gyflawni a chyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o ran gofal cymdeithasol i Oedolion a Phlant, gan gynnwys rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Rydym yn chwilio am arweinydd strategol gyda sgiliau pobl rhagorol a hanes o arwain newid diwylliannol, rheolaeth ariannol gadarn a sicrhau llywodraethu effeithiol. Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda phrofiad o weithio ar y cyd a gweithio mewn partneriaeth, a gafwyd o fewn amgylchedd gofal cymdeithasol cymhleth.

Os ydych chi'n arweinydd cryf, gweladwy ac ysbrydoledig sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaethau i gefnogi pobl Sir y Fflint, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dyddiad cau: 23 Chwefror 2024

Cyflog: £94,307 i £105,992

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Sharon Carney ar 01352 702139

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person cliciwch yma

I weld telerau ac amodau'r swydd cliciwch yma

Ymgeisiwch

Sut i Ymgeisio

1. Ceisiadau
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais safonol y Cyngor. Gellir defnyddio taflenni ychwanegol o ran manylion eich profiad gwaith. Ni dderbynnir CVs.


2. Geirdaon
Rhaid i’r geirdaon sydd ar eich ffurflen gais fod ar gael i gysylltu cyn y cyfweliad terfynol. Dylai geirdaon hefyd allu gwneud sylwadau o brofiad uniongyrchol o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd hon ac wedi gweithio gyda chi yn ystod y tair mlynedd diwethaf o’ch cyflogaeth.


3. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 23 Chwefror 2024.


4. Amserlen
Llunnir y rhestr fer 26 Chwefror 2024, a chaiff yr ymgeiswyr eu hysbysu o'r penderfyniad erbyn hanner 27 Chwefror 2024. Bydd cam cyntaf y cyfweliadau yn cael eu cynnal 5 Mawrth 2024. Mae'r cam olaf yn cynnwys Cyfweliad Aelodau Panel (ac asesiad) a chaiff ei gynnal 18 Mawrth 2024.


5. Y Broses Ddethol
Bydd y broses ddethol fel a ganlyn:
(a) Bydd eich ffurflen gais wedi'i gwblhau yn cael ei ystyried gan y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol, a fydd yn paratoi rhestr fer o’r ymgeiswyr ar gyfer cam cyntaf y cyfweliad.  Mae’n bwysig bod eich cais yn mynd i’r afael yn llawn â’r gofynion yn y Manylion am yr Unigolyn gan y bydd y rhestr fer yn seiliedig ar y meini prawf.
(b) Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cam cyntaf y cyfweliad gyda’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol. Bydd y cyfweliad hwn yn cael eu gynnal dros y we.
(c) Yn dilyn cam cyntaf y cyfweliad, bydd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol yn gwneud argymhellion o ran pa ymgeiswyr a ddylai barhau i’r camau terfynol gyda Phanel o Aelodau Etholedig.  Bydd yr aelodau yn penderfynu, pa ymgeiswyr, os oes rhai, i barhau i'r cam terfynol.
(d) Bydd cam terfynol y cyfweliad gyda'r Panel Aelodau yn cael ei gynnal 18 Chewfror 2024. Bydd angen i'r ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer y cam terfynol, baratoi a chyflwyno cyflwyniad 10 munud ar ddechrau'r cyfweliad. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu cyn yr Asesiad Terfynol.


Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich cais neu os oes gennych ymholiadau nad ydynt yn cael sylw yn y wybodaeth ar y wefan hon, cysylltwch â'n Tîm Ymateb Uwch Reolwyr ar 01352 702139.

Flintshire F logo

Amdanom Ni

Mae Sir y Fflint, fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn gyngor sy'n perfformio'n dda ac sy'n adnabyddus am arloesi mewn gwasanaethau .

Rydym yn falch o'n hanes o amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaeth yn y gymuned yn ystod cyfnod hir o lymder.

Rydym yn meddwl ymlaen , yn gadarnhaol am botensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn barhaus ac wedi gweithredu gydag angerdd a chadernid i gyflawni ein llwyddiant.

Darganfod mwy 
Marleyfield in construction 540 x 294
Welsh Dragon

Bywyd yn Sir y Fflint

Y 'porth' i Ogledd Cymru.

Mewn lleoliad delfrydol, mae gan Sir y Fflint rhywbeth i’w gynnig i bawb.

Darganfod mwy 
Beach 540 x 294