Alert Section

Swydd-ddisgrifiad

Teitl y Swydd: Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn Atebol i’r: Prif Weithredwr


Pwrpas y Swyd

• Darparu arweinyddiaeth unigol a chyfunol ar draws y Cyngor fel aelod o Dîm Rheoli Prif Swyddog i gyflawni
(1) canlyniadau sy’n cael eu harwain gan flaenoriaethau corfforaethol
(2) newid a gwelliant sefydliadol blaengar a
(3) rhagori mewn perfformiad gweithredol. 

• Gweithio fel rhan o dîm agos ac uwch dîm cyfunol, gan ganolbwyntio ar
(1) strategaeth a pherfformiad
(2) llywodraethiant sefydliadol
(3) datblygu sefydliadol a rheoli a
(4) rheoli perthnasau, partneriaethau ac enw da allanol.

• Darparu arweinyddiaeth strategol a gweithredol i wasanaethau gofal cymdeithasol (Plant ac Oedolion), gan arwain newid er budd gorau'r Cyngor, cymunedau, a'r gweithlu mewn cyfnod o her sector cyhoeddus ac ariannol.

• Dirprwyo ar gyfer y Prif Weithredwr pan fo'r angen.

Ymgeisiwch

Prif Gyfrifoldebau

Arweinyddiaeth Gorfforaethol Gyfunol

Gweithio’n agos gyda’r Prif Weithredwr, fel rhan o dîm prif swyddog sy’n rhannu lleoliad, a gwneud cyfraniad gweithredol a chadarnhaol i ddatblygiad parhaus y strategaeth gorfforaethol. 

Rhannu gweledigaeth gyfunol a chyd-arwain gweithrediad y strategaeth ar flaenoriaethau lleol a rhanbarthol yn y tymor canolig a’r tymor hir. 

Datblygu agenda'r Cyngor gyda'r Cabinet drwy arweinyddiaeth dorfol gryf, blaengynllunio, rheoli a chyflawni yn erbyn adnoddau sydd ar gael, ariannol a phobl. 

Chwarae rôl gryf, gadarnhaol a chyfartal yn y tîm uwch ar y cyd:

  • Gweithio fel Tîm:
    Bod yn rhan o uwch dîm effeithiol sy’n gweithio’n agos gyda’i gilydd, sy’n fodel rôl i weledigaeth a gwerthoedd y Cyngor, ac yn cefnogi eraill drwy ymgysylltu a galluogi iddynt berfformio. 
  • Cynllunio Strategol:
    Gweithio ar y cyd ar gynllunio strategol, er mwyn cyflawni canlyniadau strategol a arweinir gan flaenoriaethau. Gwneud rhagolygon yn y tymor hirach a chynllunio o amgylch galw, cyflenwad ac anghenion y gymuned.
  • Strategaeth Ariannol:
    Darparu adnoddau strategol ac arloesol yn effeithiol, yn ogystal â chynllunio ariannol.
  • Perfformiad: 
    Goruchwylio cynllunio a pherfformiad gwasanaeth ar y cyd, yn ogystal â rheoli risg a datrysiadau.
  • Datblygu Sefydliadol:
    Goruchwylio trawsnewidiad y Cyngor drwy hyrwyddo dyluniad sefydliadol arloesol ac uchelgeisiol, gwelliannau i’r system, rheoli talent a modelau gwasanaeth newydd. 
  • Rheolaeth y Rhaglen:
    Gweithio ar y cyd ac yn unigol i reoli a chyflwyno prosiectau a rhaglenni ar draws y Cyngor i ddarparu atebion cost-effeithiol arloesol.
  • Cydweithio:
    Datblygu a sicrhau cyfleoedd cydweithredol a rhannu gyda phartneriaid a rhanddeiliaid i wella canlyniadau, perfformiad ac arbedion ariannol i'r Cyngor.
  • Cydweithredu:
    Datblygu a diogelu cyfleoedd ar y cyd ac wedi’u rhannu gyda phartneriaid a budd-ddeiliaid i wella canlyniadau, perfformiad ac arbedion ariannol ar gyfer y Cyngor. 
  • Llywodraethu Corfforaethol:
    Darparu llywodraethu corfforaethol effeithio a chymesur, gan sicrhau bod pobl a gwasanaethau yn atebol a bod Aelodau’n cael eu cynghori’n briodol.
  • Perthnasau Allanol:
    Gweithio’n rhag fel tîm i symud perthnasau rhanbarthol a chenedlaethol, partneriaethau lleol, cymunedau a'r cyfryngau ymlaen, i wella enw da'r Cyngor. 
  • Diwygio’r Sector Cyhoeddus:
    Chwarae rôl gadarnhaol a rhagweithiol wrth gynllunio ar gyfer “glasbrint” llywodraeth leol a diwygio'r gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.

Mesuryddion Perfformiad: Adborth cymunedol, Cyflawni blaenoriaethau’r Cyngor, Cyflawni cynlluniau busnes a thrawsnewid y cytunwyd arnynt. Gweithredu polisïau a chynlluniau’r Cyngor o fewn y gyllideb, Dangosyddion Perfformiad Allweddol Statudol a Chenedlaethol. 

Gofal Cymdeithasol: Perfformiad Gweithredol a Pherfformiad Gwasanaethau

Arwain a pharhau i ddatblygu strategaeth uchelgeisiol ar gyfer gwasanaethau portffolio, a gefnogwyd gan gynllunio gweithredol a chyflawniad lefelau uchel o berfformiad a rhagoriaeth.

Sicrhau bod yr ystod ganlynol o wasanaethau yn cael eu darparu mewn modd cydlynol a chydweithredol, ac yn unol â’r polisïau, safonau a’r ddeddfwriaeth y cytunwyd arnynt:

  • Gwasanaethau Integredig ar gyfer Oedolion
    • Storfa Offer Cymunedol Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCES)
    • Gwasanaeth Anabledd
    • Gwasanaethau Pobl Hŷn
    • Gwasanaethau Rheoleiddiedig
    • Partneriaethau a lles
  • Plant a Blynyddoedd Cynnar
    • Gwasanaethau Integredig Anabledd Plant
    • Gwasanaethau Diogelu Plant
    • Gwasanaethau Maes Plant
    • Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Chymorth i Deuluoedd
    • Rhianta Corfforedig (Maethu a.y.y.b)
  • Diogelu a Chomisiynu
    • Diogelu
    • Contractau a Chomisiynu
    • Datblygu’r Gweithlu
    • Cymorth Busnes

Rhyddhau a chyflawni dyletswyddau statudol y Cyngor o ran gofal cymdeithasol Oedolion a Phlant, gan gynnwys rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol. Sicrhau bod atebolrwydd statudol y Cyfarwyddwr yn cael eu rhyddhau yn effeithiol drwy gyflawni a thrwy eraill, gydag atebolrwydd clir am berfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol. 

Darparu arweinyddiaeth weledol strategol a gweithredol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant, gan sicrhau bod mesurau diogelu perthnasol ar waith i amddiffyn plant a theuluoedd sy'n agored i niwed ac sy'n derbyn gofal, wrth wella ansawdd eu bywyd a gwella canlyniadau.

Darparu arweinyddiaeth weledol strategol a gweithredol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, gan sicrhau mesurau diogelu priodol a pherthnasol, gwasanaethau proffesiynol ac arbenigol i amddiffyn a chefnogi oedolion agored i niwed.

Arwain comisiynu darparu gwasanaethau perthnasol yn effeithiol yn unol â'r strategaethau y cytunwyd arnynt i sicrhau bod canlyniadau'n unol gyda blaenoriaethau, gan annog arloesedd a modelau darparu amgen gyda staff a phartneriaid i sicrhau'r canlyniadau mwyaf posibl a lleihau costau.

Darparu arweinyddiaeth gryf, chydlynol a gweladwy ar gyfer diogelu ar draws y Cyngor a chyda phartneriaid, gan sicrhau bod mecanweithiau, prosesau ac ymyriadau priodol ar waith i ddiogelu oedolion a phlant sy'n agored i niwed. Dylai'r rôl yrru diwylliant o berchnogaeth a pherfformiad ynghylch diogelu, caffael a gofal pobl agored i niwed.

Sicrhau rheolaeth ariannol effeithiol (cyllideb refeniw c£80m+) ac asesiadau risg ar draws gwasanaethau (gyda dros 1,100 o staff), gan sicrhau bod blaenoriaethau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni, a bod gwasanaethau'n cael eu darparu'n effeithiol ac effeithlon i'r lefelau perfformiad uchaf.

Datblygu a gweithredu datrysiadau arloesol a chreadigol fel bod gwasanaethau yn bodloni anghenion y Cyngor i newid a gwella.

Hwyluso a hyrwyddo newid a thrawsnewid ar draws y portffolio, yn ogystal â gwneud cysylltiadau ledled y Cyngor; cefnogi rheolwyr wrth ddarparu modelau gwasanaeth effeithlon a newydd.

Mesuryddion Perfformiad: Dangosydd Perfformiad Allweddol o Gynllun y Cyngor; Dangosydd Perfformiad Allweddol o’r Cynlluniau Gwasanaeth; adborth gan fudd-ddeiliad a’r gymuned; canlyniadau arolygiad ac archwiliadau; Dangosyddion Cenedlaethol Perthnasol.

Arweinyddiaeth a Datblygu Talent

Arwain, galluogi a datblygu rheolwyr a staff i sicrhau bod gweithlu cymwys, talentog a brwdfrydig yn bodloni amcanion y Cyngor.

Arwain drwy esiampl, gweithredu fel model rôl lleol mewn perthynas â gwerthoedd ac ymddygiadau arweinyddiaeth y Cyngor i lywio newid ymddygiadol a diwylliannol yn eraill.

Mesuryddion Perfformiad: Adborth gan reolwyr a staff, cynnydd yn erbyn arweinyddiaeth a datblygiad tîm (ymddygiadau, dulliau, adborth 360); amcanion a mesuryddion y Cynllun Pobl

Arweinyddiaeth a Llywodraethu Effeithiol ar y Cyd

Sefydlu a chynnal perthnasau gwaith cadarn gydag aelodau etholedig wrth lywodraethu’r Cyngor, gan ddarparu lefel uchel o gyngor a chymorth i gynnal a gwella perfformiad y Cyngor.  

Creu perthnasau gwleidyddol a phroffesiynol effeithiol wrth lywodraethu’r Cyngor, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau strategol, gydag eglurder ar atebolrwydd a gwneud penderfyniadau’n effeithiol.

Mesuryddion Perfformiad: Adborth Aelodau; Effeithiolrwydd perthnasau werth symud amcanion y Cyngor yn eu blaen.


Manylion Am Yr Unigolyn

Cymwysterau

  • Addysgwyd i lefel gradd (yn ddelfrydol o fewn maes gofal cymdeithasol perthnasol) gyda datblygiad proffesiynol a phersonol amlwg.
  • Efallai hefo radd ôl-raddedig mewn disgyblaeth berthnasol.

Gwybodaeth / Profiad

  • Profiad rheoli sylweddol mewn awdurdod lleol sy'n gweithio ar draws ystod o wasanaethau amrywiol ym maes gofal cymdeithasol. Dylai fod deiliad y swydd hefo'r profiad, y gallu a'r hygrededd i weithredu fel y Cyfarwyddwr Statudol. 
  • Profiad o weithio’n gorfforaethol ar flaenoriaethau ar draws sefydliad
  • Profiad strategol a gweithredol sylweddol wrth reoli a darparu gwasanaethau a pherfformiad
  • Profiad o'r cylch comisiynu ac o ddatblygu modelau darparu amgen.
  • Profiad o reoli adnoddau sylweddol i gyflawni canlyniadau 
  • Profiad o reoli trawsnewid gwasanaeth ar draws pobl, cyllid, systemau, prosesau, perthnasau ac adnoddau
  • Profiad o arwain staff a gwasanaethau mewn cyfnod o newid drwy fod yn hyblyg, creadigol, ymatebol a pherfformio’n uchel.
  • Profiad o ddatblygu modelau darpariaeth gwasanaethau gwahanol, gweithio i ddull comisiynu
  • Gwybodaeth gynhwysfawr o ddyluniad sefydliadol, newid a thrawsnewid i wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd
  • Dealltwriaeth o waith y sector cyhoeddus, gan gynnwys blaenoriaethau a pholisïau’r llywodraeth
  • Dealltwriaeth sylweddol o'r cyd-destun economaidd a gwleidyddol ehangach
  • Dealltwriaeth sylweddol o’r ddeddfwriaeth bresennol, gofynion rheoliadol, ac ymarfer ehangach mewn perthynas â phob maes o arbenigedd

Sgiliau

  • Gallu gweithio'n effeithio fel rhan o uwch dîm agos a chyfunol - cydbwyso gwasanaethau a blaenoriaethau corfforaethol
  • Y gallu i adnabod cryfderau cyfunol, profiad ac atebolrwydd y tîm i ganolbwyntio ar ddatrys problemau ac atebolrwydd ar y cyd
  • Gallu trosglwyddo strategaethau sefydliadol/corfforaethol i gynlluniau gweithredol effeithiol
  • Gallu a pharodrwydd i ddatblygu a chyflawni cydweithio gyda phartneriaid a darparwyr eraill wrth gefnogi Sir y Fflint a blaenoriaethau rhanbarthol
  • Llwyddo i ddatblygu perthnasau gwaith yn fewnol ac yn allanol, er mwyn darparu ystod eang o ganlyniadau'n llwyddiannus yn erbyn blaenoriaethau’r Cyngor (gallu dylanwadu ar eraill)
  • Gallu arwain prosiectau cymhleth, ar draws y Cyngor, i gefnogi gwelliant corfforaethol neu newid i wasanaethau
  • Craffter a sensitifrwydd gwleidyddol, gyda’r gallu i ddylanwadu ar eraill
  • Craffter busnes ac ymwybyddiaeth fasnachol, gyda dealltwriaeth ariannol gadarn
  • Gallu sylweddol i ddadansoddi a datrys gwybodaeth gymhleth, sefyllfaoedd a materion, a chreu datrysiadau cyfunol ac unigol effeithiol, gan weithio'n bendant
  • Gallu i siarad a darllen Cymraeg i lefel 1 o leiaf (neu cytundeb i gyflawni hyn o fewn 12 mis)

Ymddygiadau Arweinyddiaeth

Ymddygiadau sy'n Greiddiol i Lwyddiant

Mae’r ymddygiadau canlynol wedi cael eu nodi i fod yn hanfodol i lwyddiant Prif Swyddog. 

  • Canolbwyntio ar y Gymuned: Cynnal ffocws ar ganlyniadau sy’n cael eu cyflawni ar gyfer cymunedau lleol. Mae hyn yn seiliedig ar synnwyr cryf o bwrpas moesol, ond yn mynd tu hwnt i ‘eisiau gwneud y peth iawn’ dros gymunedau i ymgysylltu go iawn gyda nhw. Bydd Prif Swyddogion yn gweithredu fel modelau rôl, ac yn grymuso'r cwsmer/y gymuned, a bydd yn mewnosod diwylliant sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn systematig i’w portffolio.
  • Meddwl yn strategol ac yn creu eglurder: Y gallu i feddwl yn systematig a sylwi ar gysylltiadau. Mae hyn o gymorth i allu'r Prif Swyddog i symleiddio cymhlethdod, creu eglurder a ffocws, a meddwl yn greadigol. Bydd Prif Swyddogion yn creu ffyrdd newydd o weithio ar gyfer y dyfodol, gan lunio mewnwelediadau o fannau eraill, a chreu dulliau newydd o weithio.
  • Gyrru gwelliant parhaus: Bod â dyfalbarhad ac awydd i nodi a chyflawni gwelliannau yn barhaus, heb dynnu sylw oddi ar flaenoriaethau eraill a’u darpariaeth barhaus. Mae hyn yn cynnwys dealltwriaeth o ysgogwyr ansawdd a gwerth, a’r hyder i herio beth ddigwyddodd yn y gorffennol a chymryd gofalus. Bydd Prif Swyddogion yn herio’r arferion a lefelau perfformiad cyfredol, ac yn parhau i ganolbwyntio ar y tymor hirach.
  • Gweithio ar y cyd: Bod yn agored i safbwyntiau eraill, gweithio mewn partneriaeth yn effeithiol neu alluogi eraill i wneud hynny i ddarparu’r canlyniadau gorau i gwsmeriaid a chymunedau. Mae’n adnabod bod angen gwneud penderfyniadau i ddarparu’r gwasanaethau gorau, yn hytrach na chanolbwyntio ar ‘beth fyddai’r manteision i’m gwasanaeth i?’. Bydd Prif Swyddogion yn adeiladu aliniad rhwng partneriaid ac yn creu ymrwymiad cyfunol i ddatrysiadau o werth uchel.
  • Arwain ac ymgysylltu: Rhoi cyfeiriad, cefnogaeth ac eglurder i eraill er mwyn eu galluogi i gyflawni’n effeithiol. Mae’n cynnwys creu’r hinsawdd cywir i bobl gyflawni eu gwaith gorau, gan sicrhau diwylliant o barch at y naill a'r llall, cefnogaeth, gonestrwydd, addysg a herio'n adeiladol. Bydd Prif Swyddogion yn adeiladu synnwyr o bwrpas wedi’i rannu, sy’n rymus.
  • Yn hyderus ac yn ddewr: Bod a ffordd optimistaidd o feddwl a hyder i gyflawni, herio a dyfalbarhau, hyd yn oed pan mae cyfnodau anodd neu wrth wynebu gwrthwynebiad. Bydd Prif Swyddogion yn mynd i’r afael â heriau’n rhagweithiol, ac yn estyn allan i archwilio meysydd nas archwiliwyd o’r blaen.

Ar ben hynny, mae’r Cyngor wedi nodi yn ogystal â’r ymddygiadau hyn, mae disgwyliad y bydd Prif Swyddogion yn gallu:

  • Cefnogi arloesedd parhaus (gydag ymrwymiad i ddatblygu a galluogi eraill)
  • Sganio’r amgylchedd (gwneud cynlluniau, gosod cyfeiriad ac achub y blaen ar faterion)
  • Rheoli perfformiad ar gyfer canlyniadau (darparu disgwyliadau, safonau ac amcanion clir) 
  • Creu cyfleoedd (mentro ac achub y blaen ar newidiadau yn y dyfodol)
  • Dylanwadu (ymgysylltu gydag eraill, cyfathrebu gydag effaith) 
  • Cynnig craffter gwleidyddol (deall y cyd-destun gwleidyddol yn lleol ac yn genedlaethol) 
  • Dangos ymwybyddiaeth o’r hunan a gwydnwch (rheoli effaith personol)
Flintshire F logo

Amdanom Ni

Mae Sir y Fflint, fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn gyngor sy'n perfformio'n dda ac sy'n adnabyddus am arloesi mewn gwasanaethau .

Rydym yn falch o'n hanes o amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaeth yn y gymuned yn ystod cyfnod hir o lymder.

Rydym yn meddwl ymlaen, yn gadarnhaol am botensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn barhaus ac wedi gweithredu gydag angerdd a chadernid i gyflawni ein llwyddiant.

Darganfod mwy 
Marleyfield in construction 540 x 294
Talacre Beach Sculpture 540 x 294

Ynglŷn â'r Rôl

Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol blaenllaw yng Nghymru a'r mwyaf yng Ngogledd Cymru. Mae gennym enw rhagorol ym meysydd tai cymdeithasol, datblygu cymunedol a lles.

Mae gennym gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol a’i wasanaethau gydag ymddeoliad deilydd presennol y swydd ar fin digwydd.

Darganfod mwy 
Welsh Dragon
Welsh Dragon

Bywyd yn Sir y Fflint

Y 'porth' i Ogledd Cymru.

Mewn lleoliad delfrydol, mae gan Sir y Fflint rhywbeth i’w gynnig i bawb.

Darganfod mwy 
Beach 540 x 294