Croeso i Ddatblygu Chwarae Sir y Fflint, lle rydym yn credu yn hud chwarae fel grym trawsnewidiol ym mywydau plant a phobl ifanc. Ein cenhadaeth yw i greu lleoedd a chyfleoedd sy’n eu galluogi i ffynnu, dysgu a thyfu drwy rym chwarae. Dewch i ni fynd â chi ar daith i ddeall pwy ydym ni a’r gwaith nodedig rydym yn ei wneud.
Ein Blaenoriaethau:
Mae Datblygu Chwarae Sir y Fflint yn dîm angerddol o eiriolwyr, addysgwyr ac unigolion sy’n frwd dros chwarae sy’n ymroddedig i gefnogi hawliau plant a phobl ifanc. Rydym yn cydnabod fod chwarae nid yn unig yn hanfodol i hapusrwydd ond hefyd mae’n rhan gynhenid o ddatblygiad cyfannol. Trwy chwarae mae plant yn archwilio, dysgu ac yn datblygu sgiliau hanfodol sy’n siapio eu dyfodol.
Yn greiddiol i’n hymdrechion mae’r gred fod pob plentyn yn haeddu’r hawl i chwarae. Rydym yn gweithio’n ddiflino i greu mannau diogel, cynhwysol a llawn dychymyg lle gall plant gymryd rhan mewn chwarae creadigol heb strwythur. Drwy greu amgylcheddau lle mae chwarae yn ffynnu, rydym yn meithrin gwytnwch, creadigrwydd a sgiliau cymdeithasol sy’n mynd y tu hwnt i blentyndod.
O drefnu Cynlluniau Chwarae, gweithdai chwarae a digwyddiadau cymunedol i gydweithio gydag ysgolion, Cynghorau Tref a Chymuned a sefydliadau lleol, mae ein gwasanaethau’n amrywiol ac yn cael effaith fawr. Rydym yn darparu hyfforddiant ac adnoddau i addysgwyr, rhieni a’r rhai sy’n darparu gofal, gan sicrhau eu bod yn deall manteision mawr chwarae yn natblygiad plant.
Nid dim ond hyrwyddwyr chwarae ydym ni; rydym ni’n eiriolwyr dros hawliau plant. Mae ein hymroddiad i gynnal egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gadarn. Trwy ein mentrau ein nod yw i ehangu lleisiau plant a phobl ifanc, gan sicrhau fod eu hawliau’n cael eu parchu a’u cynnal.
Fel cefnogwyr balch o’r Gymraeg a threftadaeth ddiwylliannol, rydym yn llenwi ein gweithgareddau gyda chyfoeth ein hunaniaeth leol. Trwy chwarae, rydym yn dathlu ein hiaith a’n traddodiadau, gan greu synnwyr o berthyn a balchder ymhlith y bobl ifanc rydym yn eu gwasanaethu.
Rydym yn deall fod creu newid sy’n creu effaith fawr yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Dyma pam rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Cynghorau Tref a Chymuned, cymunedau a sefydliadau partner i sicrhau fod ein mentrau’n rhai pellgyrhaeddol a chynaliadwy.
Wrth i ni edrych tua’r dyfodol, does dim terfyn ar ein cyffro. Rydym yn ymrwymedig i ehangu ein cyrhaeddiad, mireinio ein rhaglenni a chreu diwylliant chwarae sydd hyd yn oed yn fwy cynhwysol a bywiog yn Sir y Fflint a thu hwnt.
Ymunwch â Ni i Feithrin Potensial:
Ymunwch â Ni i Feithrin Potensial:Mae Datblygu Chwarae Sir y Fflint yn fwy na menter; mae’n symudiad sy’n dathlu plentyndod, yn galluogi ieuenctid, ac yn cefnogi hawliau pob plentyn i chwarae. Ymunwch â ni yn y daith hon o dwf, archwilio a phosibiliadau diddiwedd.
Gyda chwaraegarwch a diben,
Tîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol!
Facebook