Ymgysylltu â Phobl Hŷn
Mae prosiect Ymgysylltu â Phobl Hŷn wedi bod ar waith yn Sir y Fflint ers mis Ebrill 2008. Wedi’i reoli gan Swyddog Ymgysylltu Heneiddio'n Dda, Cyngor Sir y Fflint, mae’r prosiect yn hwyluso cyfleoedd i gynyddu ymgysylltiad â phobl hŷn wrth gynllunio, dylunio, darparu ac adolygu gwasanaethau i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, a dosbarthu gwybodaeth am wasanaethau, gweithgareddau a digwyddiadau i wella lles ac annibyniaeth pobl hŷn.
Mae rhwydwaith o unigolion a grwpiau pobl hŷn yn rhoi’r mecanwaith ar gyfer cael eu safbwyntiau a’u barn ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw. Gellir gwneud hyn drwy gynnal arolygon, ymgynghoriadau, gweithgareddau ymgysylltu, cynrychiolaeth ar grwpiau polisi a chynllunio lleol neu drwy uwchgyfeirio materion a phryderon cyffredin a nodwyd ar lefel lleol.
Gydag ymrwymiad i wneud Sir y Fflint yn sir oed-gyfeillgar, mae’r prosiect yn rhoi cyfleoedd i bobl hŷn gymryd rhan mewn datblygu cymunedau oed-gyfeillgar.
Sut mae cymryd rhan?
Rhwydwaith pobl hŷn
Derbyn e-bwletinau (wythnosol) rheolaidd ar wybodaeth a gwasanaethau sy’n hyrwyddo annibyniaeth a lles, manylion gweithgareddau/digwyddiadau lleol, ymgynghoriadau ac arolygon.
E-bost: YmgysylltiadPH@siryfflint.gov.uk
Grŵp Gweithredu 50+ (Sir y Fflint)
Mae Grŵp Gweithredu 50+ (Sir y Fflint) yn grŵp annibynnol o bobl 50 oed a hŷn sy’n cyfarfod bob mis i fynd i’r afael â’r blaenoriaethau a’r pryderon sy’n effeithio ar bobl 50+ oed yn y sir. Bwriad y grŵp yw rhoi llais i bobl 50+ oed ar benderfyniadau sy’n effeithio ar bobl hŷn yn Sir y Fflint.
Gan weithio’n agos gyda’r Swyddog Ymgysylltu Heneiddio'n Dda, mae’r Grŵp Gweithredu yn creu cyfleoedd i fynegi barn a phryderon pobl hŷn gydag amrywiaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol. Mae hyn yn cynnwys gwahodd arweinwyr polisi/gwasanaeth i gyfarfodydd agored a drefnwyd gan y grŵp i siarad â phobl hŷn a gwrando ar eu pryderon, gan ymateb i ymgynghoriadau a chynrychioli pobl hŷn ar grwpiau budd-ddeiliaid.
Taflen y Grŵp Gweithredu 50+
Grwpiau oed-gyfeillgar/sy’n deall dementia
Mae grwpiau cymunedol oed-gyfeillgar/sy’n deall dementia yn gweithio i wella pa mor oed-gyfeillgar yw eu cymunedau a chodi ymwybyddiaeth a gwella’r gefnogaeth i bobl sy’n byw â dementia.
Ewch i’r dudalen am Ddementia
Grwpiau/gweithgareddau i bobl hŷn
Grwpiau sefydledig, gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau i bobl 50 oed a hŷn ar draws Sir y Fflint.
Canllaw Beth sy’ ‘mlaen
Cefnogwr o Blaid Pobl Hŷn, Cyngor Sir y Fflint
Mae gan y Cefnogwr o Blaid Pobl Hŷn ddiddordeb gweithredol mewn creu Sir y Fflint oed-gyfeillgar, ac mae wedi ymrwymo’n llwyr i nodau’r rôl hon fel sy’n cael ei ddiffinio gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
- Gosod pobl hŷn fel blaenoriaeth yng ngwaith y Cyngor.
- Sicrhau bod pobl 50+ oed wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau o ran comisiynu, cynllunio a darparu gwasanaethau i bobl hŷn.
- Gweithredu fel ‘llais’ i bobl hŷn yn siambr y Cyngor.
- Sicrhau bod ystod amrywiol o bobl hŷn a’u hanghenion yn cael eu deall a’u mynegi.
- Gweithio gyda fforymau pobl 50+ oed lleol neu grwpiau pobl hŷn a rhwydweithiau oed-gyfeillgar i gefnogi ymagwedd gydlynol tuag at greu Cymru o blaid pobl hŷn.
- Cael gwared ar wahaniaethu ar sail oedran.
- Hyrwyddo pwysigrwydd darparu gwybodaeth a chyngor i bobl hŷn.
- Hyrwyddo pontio'r cenedlaethau
E-bost: christine.m.jones@siryfflint.gov.uk