NHS Cymru
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd, neu iechyd aelod o'r teulu, dylech siarad â'ch meddyg teulu.
Mae gwefan GIG Cymru hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddementia.
Cyngor Sir y Fflint
Tîm Cyswllt Cyntaf - Un Pwynt Mynediad
Drwy ffonio un rhif bydd modd i chi siarad â rhywun am wasanaethau iechyd, lles a gofal cymunedol. Bydd modd i chi gael gwybodaeth, cyngor, cymorth, asesiad a gofal cydlynol drwy ffonio’r rhif hwn.
Os yw’n well gennych, bydd hefyd modd i chi gael gwybodaeth a chysylltu drwy’r wefan a thrwy e-bost. P’run ai ydych yn cysylltu mewn perthynas â’ch hun, unigolyn yr ydych yn gofalu amdano neu rywun yr ydych yn pryderu amdano, bydd Un Pwynt Mynediad yno i wrando ac i’ch cynorthwyo.
Os nad yw Un Pwynt Mynediad yn gallu eich helpu’n uniongyrchol, byddant yn eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu (18+) a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y sector statudol a’r trydydd sector.
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion - Un Pwynt Mynediad
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, CH7 1PZ.
Ffôn: 03000 858858
E-bost: spoa@siryfflint.gov.uk
Sut ydw i'n gallu cael mynediad i ofal a chymorth?
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn dod a Chyngor Sir y Fflint, Heddlue Gogledd Cymru, y Ganolfan Waith a mwy a sefydliadau partner eraill ynghyd, i ddarparu gwasanaethu o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i'r cyhoedd ac unigolion diamddiffyn yn ein cymuned sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethu ar-lein neu ar y ffon.
Yn Sir y Fflint yn Cysylltu, gallwch siarad ag un o'n Ymgynghorwyr Gwasanaethu Cwsmeriaid hyfforddedig am ystod o wasanaethau'r cyngor.
Mae canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yng Bwcle, Nghei Connah, Y Fflint, Treffynnon, a'r Wyddgrug.
I gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar, mae llwybr cefnogaeth wedi’i gyflwyno ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys Canolfan Ddementia newydd ym Maes Glas, Sir y Fflint.
Mae’r Ganolfan Ddementia’n cael ei gweithredu gan Wasanaethau Gofal Croesffyrdd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd. Mae’r ganolfan yn rhoi cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig clinigau iechyd a grwpiau cefnogi cyfoedion.
I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Ddementia Sir y Fflint, ffoniwch Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ar 01492 542212.
Pan fo’n ymddangos bod oedolyn yn profi, neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod, mae gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i ymgymryd ag ymholiadau i benderfynu p’run ai yw hynny’n wir ac i lunio ymateb i sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei ddiogelu.
Gall staff a’r cyhoedd gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol am gyngor, neu fe allwch ffonio 999 i gysylltu â’r Heddlu’n uniongyrchol os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni neu bod rhywun mewn perygl brys.
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01352 803444 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Os ydych yn pryderu bod person oedrannus yn cael ei gam-drin, ffoniwch llinell gymorth Action on Elder Abuse ar 0808 808 8141 neu Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru ar 08450 549969.
Pan fydd y swyddfeydd ar gau, cysylltwch â'r Heddlu ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.
Dewch i wybod mwy am Gymdeithas Alzheimer’s Cymru a chael mynediad at adnoddau am ddementia yn y Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth am rwydwaith Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia (DEEP) a’r grwpiau a’r gweithgareddau lleol sy’n cael eu cefnogi gan DEEP yn Sir y Fflint.
Mae Dewis Cymru yn wefan sydd wedi’i datblygu i helpu pobl ganfod gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all eu helpu i reoli eu lles eu hunain.
Mae yno wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sydd yn bwysig i chi, mae hefyd gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda’r pethau sydd yn bwysig i chi.
Awgrymiadau defnyddiol a allai helpu gwneud bywyd ychydig yn haws ar ôl cael diagnosis o ddementia.
Ysgrifennwyd y llyfryn yma gan bobl sy’n byw gyda dementia, ar gyfer poblsy’n byw gyda dementia.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau.
Mae’n darparu help a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy ei thîm gwaith achosion ac mae’n gweithio i rymuso pobl hŷn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gweithredir yn ei gylch.
Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi gydag adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal yn atebol pan fo angen.
Mae’r gwasanaeth yn darparu ystod o offer Teleofal sydd yn cefnogi annibyniaeth. Gellir cysylltu offer Teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr neu â system ffôn symudol neu system rybuddio gofalwr. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gallwch alw am gymorth.
Mae’r offer Teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n teimlo y gallai wneud gwahaniaeth i’w bywydau yn dilyn asesiad o anghenion.
Gofynnir am un taliad o £25 + TAW am osod yr offer.Os hoffech i ni gysylltu eich offer teleofal â chanolfan fonitro Galw Gofal, codir tâl monitro o £2.20 + TAW yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 03000 858858 neu ebost: spoa@siryfflint.gov.uk
Cyngor annibynnol, ymarferol a rhad ac am ddim ar wneud dewisiadau gofal ar draws y DU.