Help i Ofalwyr
Os ydych yn gofalu am rywun sy’n methu gofalu amdanyn nhw eu hunain oherwydd salwch, anabledd, neu effeithiau heneiddio a’ch bod yn rhoi gofal sylweddol, di-dâl i’r person hwnnw, felly rydych yn Ofalwr.
Gwasanaethau i’ch helpu chi gyda’ch cyfrifoldebau gofalu:
- Rhoi cyngor a gwybodaeth i chi
- Eich cyfeirio at gyrff gwirfoddol sy’n gallu rhoi grantiau a chymorth i ofalwyr.
- Cymorth gyda’r gwaith garddio, glanhau neu i brynu offer
- Rhoi seibiant i chi.
- Ailasesu’r cymorth a gaiff y person rydych chi’n gofalu amdano i wneud yn siŵr bod eich anghenion chi’n cael sylw.
Er bod modd trefnu rhai gwasanaethau’n uniongyrchol gyda chorff gwirfoddol, gyda gwasanaethau eraill, mae’n rhaid cynnal asesiad i weld beth yw’ch anghenion a pha wasanaethau sydd ar gael i’ch helpu.
Canllaw Gofalwyr Hanfodol
Taflen Wybodaeth Taliadau Uniongyrchol i Ofalwyr