Mae meicro-ofal yn ffordd newydd o ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl yn Sir y Fflint.
Mae meicro-ofalwyr yn bobl, neu'n fusnesau bach, sy’n cynnig gofal, cefnogaeth neu wasanaethau lles hyblyg a phersonol i bobl. Maen nhw’n gweithio gyda’u cleientiaid i ganfod beth sy’n bwysig iddyn nhw a’r ffordd orau i’w cefnogi er mwyn iddyn nhw gyrraedd eu nodau.
Gall meicro-ofalwyr helpu pobl gydag amrywiaeth o bethau, er enghraifft:
- Gwasanaethau gofal cartref
- Seibiant i ofalwyr
- Gwyliau a seibiant byr
- Gweithgareddau sy’n dod â phobl at ei gilydd
- Cyfleoedd hamdden, lles a chymdeithasol
- Glanhau
- Cymorth gyda biliau
- Gofalu am anifeiliaid anwes
- Ymgyfeillio/cwmnïaeth
- Help i arddio
- Darparu prydau ar gyfer pobl yn eu cartrefi eu hunain
- Mynd i mewn ac allan o’r gwely
- Nôl neges ar gyfer un neu fwy nag un person
Gellir talu meicro-ofalwyr drwy daliad uniongyrchol neu drwy gronfeydd unigolyn.