Bydd nifer o ddarparwyr meicro-ofal yn unig fasnachwyr, gan gynnig cefnogaeth i ychydig iawn o bobl mewn ardal gymharol fach. Drwy weithio yn y ffordd yma maen nhw'n gallu darparu gwasanaeth sy'n fwy hyblyg ac ymatebol, gan sicrhau bod y gwasanaeth gofal a chefnogi yn cael ei ddarparu fel sydd arnoch chi ei angen ac ar adeg sy'n gyfleus i chi.
Gan eu bod yn gweithio iddyn nhw eu hunain, neu mewn partneriaeth â chydweithwyr meicro-ofal eraill, byddan nhw’n gallu darparu gwasanaeth mwy cyson gan wynebau cyfarwydd.
Bydd y rhan fwyaf o feicro-ofalwyr yn cynnig gwasanaethau gofal personol ac ystod o wasanaethau lles eraill fel nôl neges, glanhau a chymorth gydag amrywiaeth o weithgareddau.
Mae’r holl feicro-ofalwyr sydd wedi’u rhestru ar y wefan hon sy’n cynnig gofal personol yn gorfod cyrraedd safonau ymarfer penodol, sy’n cael eu gwirio cyn iddyn nhw ddechrau gweithio i wneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn ddiogel. Mae Tîm Meicro-Ofal Cyngor Sir y Fflint hefyd yn eu monitro’n barhaus i sicrhau eu bod nhw’n parhau i gynnig gofal a chefnogaeth o'r radd flaenaf.
Beth sydd yn rhaid i Feicro-Ofalwyr Rhaglen Meicro-Ofal Sir y Fflint ei gyflawni cyn iddyn nhw ddechrau gweithio?
Bydd yr holl feicro-ofalwyr sy’n cael eu cefnogi gan y Tîm Meicro-Ofal yn meddu ar y canlynol:
- Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus
- Gwiriad dilys y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
- Wedi cofrestru fel gweithiwr hunangyflogedig gyda Chyllid a Thollau EM
- Proffil Busnes - yn egluro’r busnes a’r gwasanaethau
- Proffil un dudalen - yn egluro beth sy’n bwysig i’r client
- Gweithdrefn gyfrinachedd
- Geirdaon
Bydd ar feicro-ofalwyr sy’n darparu gwasanaethau gofal personol hefyd angen tystiolaeth eu bod wedi derbyn hyfforddiant gofal hyd at lefel briodol.
Er bod yn rhaid i feicro-ofalwyr gyflawni’r lefelau gofynnol fel y nodwyd gan y Tîm Meicro-Ofal cyn iddyn nhw ddechrau masnachu, mae darparwyr meicro-ofal yn ddarparwyr gofal hunangyflogedig annibynnol ac felly dydi Cyngor Sir y Fflint ddim yn gyfrifol am eu camau gweithredu.
Beth sydd arnoch chi angen gwybod cyn cyflogi meicro-ofalwr?
Mae Tîm Meicro-Ofal Sir y Fflint yn cynnal gwiriadau cyn rhoi meicro-ofalwr ar y gronfa ddata. Mae hyn yn golygu, os ydi meicro-ofalwr yn hysbysebu ar y safle, ei fod wedi derbyn yr holl hyfforddiant sylfaenol a bodloni’r gofynion eraill sy'n angenrheidiol drwy ein 'Fframwaith Ansawdd'.
Er bod yr holl wiriadau wedi’u gwneud, mae’n syniad da i chi, neu rywun ar eich rhan, gyfweld â’r meicro-ofalwr cyn cynnig gwaith iddo. Cofiwch, mae rhwydd hynt i chi ofyn am gopi o’r yswiriant, y dystysgrif Datgelu a Gwahardd a’u statws hunangyflogaeth. Bydd pob meicro-ofalwr yn fodlon darparu’r rhain i chi.
Os ydi’ch anghenion wedi’u hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a’ch bod chi’n bodloni meini prawf cymhwyso’r Cyngor ar gyfer gofal neu gefnogaeth, mae’n rhaid i chi ddewis derbyn Taliad Uniongyrchol gan Gyngor Sir y Fflint os ydych chi’n dymuno defnyddio darparwr meicro-ofal. Mae taliad uniongyrchol yn arian gan Gyngor Sir y Fflint i gwrdd â’ch anghenion asesedig ac er mwyn i chi brynu gofal neu gefnogaeth yn uniongyrchol. Fe allwch chi naill ai ddewis dod yn gyflogwr a chyflogi eich cymorthyddion personol eich hun neu ddefnyddio’r arian i hurio darparwr meicro-ofal. Mae pob meicro-ofalwr yn hunangyflogedig, felly ni fydd gennych chi gyfrifoldebau cyflogwr.
Ar ôl i chi ddewis eich darparwr meicro-ofal ac ar ôl i’r darparwr gytuno eich cefnogi, bydd y meicro-ofalwr yn rhoi contract i chi ei ddarllen a’i lofnodi os ydych chi’n fodlon ar y cynnwys. Bydd y meicro-ofalwr yn fwy na pharod i fynd drwy'r contract efo chi.
Os ydi rhywun yn dweud ei fod yn feicro-ofalwr, ond nad ydi ei enw yn ymddangos ar y gronfa ddata hon, cysylltwch â’r Tîm Meicro-Ofal ar 01352 704023 neu 01352 701958 i wirio ei fod yn rhan o’r cynllun.