Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch Treth Gyngor, dywedwch wrthym. Rydym yn awyddus i’ch helpu chi i dalu’r Dreth Gyngor ac mae’n bosibl i ni ddod i ryw drefniant y gallwch ei fforddio. Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn cael trafferth gwneud eich taliadau rheolaidd, mae’n bosibl y byddwn yn codi taliadau ychwanegol arnoch.
Cliciwch yma i weld Polisi Casglu Dyledion Teg Cyngor Sir y Fflint
Rwy’n ei chael hi’n anodd talu fy Nhreth Gyngor ar y dyddiadau talu. Fedra’ i newid fy nyddiad talu?
Os ydi’ch dyddiad talu’n anghyfleus, beth am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan fod hynny’n rhoi mwy o hyblygrwydd i chi. Gallwch dalu ar y 1af, 8fed, 18fed neu’r 25ain diwrnod o bob mis neu bob wythnos, os yw'n well gennych.
Os byddwch yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, gallwch fod yn sicr y bydd eich taliad yn ein cyrraedd mewn da bryd ac na fydd angen i chi boeni y byddwn yn cymryd unrhyw gamau i’w adennill.
Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn hawdd ac mae newid i’r dull hwn o dalu yn syml, trwy gyflwyno ein.
Cliciwch yma i sefydlu
Talu Treth y Cyngor dros 12 mis
Er mwyn gallu rheol taliadau yn well, gallwch rannu’r taliadau dros 12 mis o Ebrill – Mawrth. Os nad ydych yn dymuno talu trwy ddebyd uniongyrchol, mae’r taliadau hyn yn daladwy ar y 1af o bob mis.
Beth ddigwyddith os na fyddaf yn talu?
Os na fyddwch yn talu’ch Treth Gyngor mewn da bryd, byddwn yn anfon llythyr i’ch atgoffa. Os na fyddwch yn talu’r swm dyledus cyn pen 7 diwrnod, neu os cewch fwy na 2 lythyr atgoffa mewn blwyddyn ariannol, byddwch yn colli’ch hawl i dalu fesul rhandaliadau a byddwn yn anfon Rhybudd Terfynol atoch yn gofyn am y swm llawn sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn.
Os na fyddwch yn talu’r swm hwn cyn pen 7 diwrnod ar ôl cael y Rhybudd Terfynol, neu os na fyddwn yn clywed gennych, byddwch yn cael gŵys a fydd yn golygu costau ychwanegol ar eich cyfrif hyd at £70.
Am fwy o wybodaeth ac i gael cyngor am ddim am ddyledion, edrychwch ar wefan GOV.UK
Fel arall, gallwch dderbyn Cyngor lleol am ddim drwy gysylltu â:
Beth i’w wneud os ydych chi wedi cael Ffurflen Cais am Wybodaeth
Os ydych wedi derbyn Gorchymyn Dyled ar gyfer Treth y Cyngor drwy’r post mae'n bwysig eich bod yn gweithredu ar unwaith.
Gallwch dalu yn llawn drwy ffonio ein llinell daliadau awtomataidd ar 08453 722724 neu ar-lein.
Cliciwch yma i dalu
Os na fyddwch yn gallu talu yn llawn mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen rydych wedi’i derbyn gyda’ch llythyr.
Neu, gellir cwblhau’r wybodaeth yn defnyddio ein ffurflen gais am wybodaeth ar-lein.
Gorchymyn Dyled Treth y Cyngor Cais Am Wybodaeth
Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 i roi eich manylion cyflogaeth ac incwm ac i drafod cytundeb talu neu i drefnu Gorchymyn Atafaelu Enillion ble mae’r gweddill yn cael ei ad-dalu i ni yn uniongyrchol gan eich cyflogwr o’ch cyflog.
Os na fyddwch yn talu ac na fyddwch yn talu’r gweddill i’r Cyngor o fewn 7 diwrnod o ddyddiad y Gorchymyn Dyled, bydd y gweddill yn cael ei drosglwyddo i Asiantwyr Gorfodi’r Cyngor ar gyfer ei gasglu. Os bydd Asiant Gorfodi yn cael ei ddefnyddio i orfodi’r Gorchymyn Dyled, gallai’r swm sy’n ddyledus gennych gynyddu’n sylweddol.
Gall y ffioedd rydych yn atebol amdanynt fod:
- Ar gyfer pob gweddill Gorchymyn Dyled a weithredir ganddynt, bydd ffi o £75 yn daladwy iddyn nhw yn uniongyrchol.
- Os bydd yn rhaid iddynt ymweld â’ch cartref i gasglu eich dyled, mae £235 pellach yn daladwy
- Os bydd yn rhaid iddynt ymweld â chi a bod eich dyled dros £1,500, yna bydd cost ychwanegol o 7.5% o’r gweddill dros £1,500 yn daladwy gennych chi.
- Os byddwch yn torri cytundeb a’u bod yn ymweld â’ch eiddo gyda cherbyd i symud eich nwyddau, mae costau £110 pellach yn daladwy yn uniongyrchol ganddyn nhw ynghyd â ffi ychwanegol o 7.5% o unrhyw weddill sy’n fwy na £1,500.
Asiantau Gorfodaeth
Gall y Cyngor gyfarwyddo Asiant Gorfodaeth i gasglu dyled Treth y Cyngor sydd heb ei thalu gennych chi os bydd gorchymyn dyled wedi'i gyflwyno yn eich enw chi. Byddwn yn gwneud hynny os nad ydych wedi paratoi cynllun ad-dalu, neu os nad ydych wedi cadw ato, neu os nad ydych wedi llenwi ac anfon yn ôl y ffurflen wybodaeth bersonol a anfonwyd atoch chi.
Mae ein gwasanaeth gorfodi mewnol yn un o’r awdurdodau lleol cyntaf i gael achrediad gan y Bwrdd Gorfodi Ymddygiad. Mae’r Bwrdd Gorfodi ymddygiad yn gorff arsylwi annibynnol ar gyfer y sector gorfodi dyledion yng Nghymru a Lloegr, ac wedi cynhyrchu cyfres o safonau newydd er mwyn sicrhau fod pawb sy’n destun camau gorfodi yn cael eu trin yn deg a chyson.
Mae achrediad Sir y Fflint yn darparu sicrwydd fod yr holl weithgareddau a gyflawnir gan ein hasiantwyr gorfodi a thimoedd canolfannau cyswllt yn cydymffurfio â’r arferion gorau diweddaraf ac yn ystyried fforddiadwyedd a diamddiffynedd.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y safonau newydd a gwaith y Bwrdd Gorfodi Ymddygiad yma:
https://enforcementconductboard.org/cy/standards/
Bydd yr Asiant Gorfodaeth yn cysylltu â chi i drefnu i chi dalu’r ddyled, yn llawn neu bob yn dipyn. Mae’n rhaid i chi ateb eu lythyrau, ebostiau a galwadau ffôn a threfnu i dalu. Os yw eich dyled wedi’i hanfon at Asiant Gorfodaeth bydd yn rhaid i chi dalu ffi benodol o £75 am bob gorchymyn dyled pan gewch chi lythyr gan yr Asiant drwy'r post.
Ar ôl hynny, bydd yn rhaid talu, neu gynnig talu, i’r Asiant Gorfodaeth.
Ymweliad Gorfodaeth
Os na fyddwch yn trefnu i dalu’r Asiant Gorfodaeth, neu drefnu i dalu ac yna’n peidio â thalu, bydd yr Asiant yn ymweld â chi. Os ydyn nhw'n ymweld, mae yna ffi sefydlog o £235 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500.
Fel arfer bydd yr Asiant Gorfodaeth yn gofyn i chi dalu’r ddyled yn llawn.Ond os na allwch wneud hynny, bydd yr Asiant fel arfer yn gwneud trefniadau i chi ad-dalu. Gall yr Asiant Gorfodaeth wneud Cytundeb Nwyddau a Reolir, sy’n golygu y bydd yr Asiant yn paratoi rhestr o'r eiddo y mae eu gwerth yn cyfateb i'ch ddyled.
Os yw eich eiddo yn rhan o Gytundeb Nwyddau a Reolir chewch chi mo’u gwaredu na'u gwerthu heb ganiatâd yr Asiant Gorfodaeth.
Os na fyddwch yn llofnodi’r Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth gymryd eich eiddo pan fydd yn eich cartref. Mae yna gostau ychwanegol o £110 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500 os bydd eich eiddo’n cael ei symud a’i werthu.
Os na fyddwch yn talu yn ôl y cytundeb a’ch bod wedi llofnodi Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth fynd i mewn i'ch cartref, drwy dorri i mewn os bydd raid, i gymryd yr eiddo a restrwyd.
Os yw’r Asiant Gorfodaeth o’r farn nad oes yna ddigon o eiddo i glirio’r ddyled, byddwn yn ystyried dulliau eraill o adfer y ddyled, megis methdaliad neu gorchymyn arwystlo yn erbyn eich cartref.