Alert Section

Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint


Beth yw Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU?

Ym mis Ebrill 2022 cyhoeddodd Llywodraeth y DU fanylion ynglŷn â sut y byddai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithio.  Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw’r gronfa newydd a ddarperir gan Lywodraeth y DU yn lle Cronfeydd Strwythurol yr UE a bydd yn darparu £2.6 biliwn o fuddsoddiad ar draws y DU tan fis Mawrth 2025.

Dyrannwyd cyfanswm o £13.1 miliwn i Gyngor Sir y Fflint i’w fuddsoddi dros dair blynedd. Caiff hyn ei dorri i lawr i ychydig o dan £11 miliwn o arian craidd a £2.2 miliwn ar gyfer y rhaglen Lluosi cenedlaethol.

I gael rhagor o wybodaeth am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir y Fflint, y broses gystadleuol a dolenni i ragor o wybodaeth gweler tudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.


Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint

Yn 2023, trwy broses ddau gam gystadleuol, roedd Tîm Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn llwyddiannus gan dderbyn dyraniad o £1.178 miliwn o arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU er mwyn cyflawni Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint. 

Beth yw Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint?

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys 8 o brosiectau, sy’n cyd-fynd â phwyslais Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gefnogir gan amcanion Llywodraeth y DU sef i wneud yr isod:

  • Hybu cynhyrchiant, cyflog, swyddi a safonau byw drwy greu twf yn y sector preifat, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle maent ar ei hôl hi;
  • Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent ar eu gwanaf;
  • Adfer ymdeimlad o gymuned, perthyn a balchder lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny lle maent wedi eu colli;
  • Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn enwedig yn y lleoedd hynny sydd â diffyg gweithrediad lleol

Er mwyn cyflawni hyn mae gan arian Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU dair blaenoriaeth fuddsoddi:

  • Cymuned a Lle
  • Cefnogi Busnesau Lleol 
  • Phobl a Sgiliau

Pa brosiectau sy’n ffurfio Rhaglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint? 

1) Cynllun Grant Gwella Eiddo Canol y Dref

2) Datblygu prosiectau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol 

3) Buddsoddiad mewn Mannau Gwyrdd

4) Hyrwyddo ac Ymgysylltu Tîm Marchnadoedd Canol Trefi

5) Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol y Dref (TCEAG) 

6) Datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd 

7) Darpariaeth Cymorth i Fusnesau wedi’i Deilwra 

8) Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus

9) Dociau Cei Connah

Yn 2025-2026 dyfarnwyd rhagor o gyllid i Raglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint i barhau gyda’r amcanion sydd eisoes wedi eu cyflawni o raglen 2023-2025 fel:

  • Ymateb yn rhagweithiol i gyfleoedd buddsoddi yng nghanol trefi ac annog hynny yn frwd
  • Cefnogi gwasanaethau rheng flaen mewn lleoliadau yng nghanol y dref
  • Nodi safleoedd allweddol ar gyfer ailddatblygu yn y dyfodol neu arallgyfeirio er mwyn gwella cynaliadwyedd a hyfywedd
  • Targedu eiddo gwag neu eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio ddigon yng nghanol trefi ar gyfer ymyrraeth
  • Hyrwyddo mentrau cymunedol a pherchnogaeth asedau cymunedol
  • Hyrwyddo canol trefi a chefnogi budd-ddeiliaid gyda datblygu cynlluniau gweithredu
  • Cefnogi busnesau i addasu i amodau economaidd sy’n datblygu
  • Dilyn cyfleoedd cyllido allanol i gefnogi’r rhaglen
  • Gwella monitro i asesu a gwella hyfywedd canol trefi.

Caiff hyn ei wneud drwy 6 phrosiect:

  • Y Cynllun Grant Gwella Canol Trefi
  • Datblygu prosiectau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol 
  • Buddsoddi mewn Mannau Gwyrdd
  • Hyrwyddo’r tîm Marchnadoedd Canol Trefi ac ymgysylltu
  • Cynllun Grant Gweithgareddau a Digwyddiadau yng Nghanol Trefi
  • Datblygu’r Cynllun Creu Lleoedd

Pwy sy’n elwa o Raglen Fuddsoddi Canol Trefi Sir y Fflint?

Mae’r rhaglen o gefnogaeth yn cynnwys ystod o feysydd cefnogi, o fusnesau lleol, buddsoddi yn natblygiad canol trefi er mwyn gwneud lleoedd yn fwy atyniadol a hygyrch ar gyfer y gymuned a gweithio ar brosiectau i helpu i annog buddsoddiad yn nhrefi Sir y Fflint yn y dyfodol. 

Beth fydd Rhaglen Fuddsoddi Canol Tref Sir y Fflint yn ceisio ei gyflawni?

  • Cymuned fwy ymgysylltiedig; sy’n awyddus i fod yn rhan o’r broses o lunio dyfodol canol eu trefi
  • Pobl leol yn cael synnwyr cryfach o le a chysylltedd i ganol eu trefi
  • Perchnogion busnes yn cael cymorth a chyngor i redeg eu busnesau ac estyn allan i farchnadoedd/cynulleidfaoedd newydd
  • Grwpiau cymunedol yn cael cyfle i ddatblygu a darparu prosiectau a gweithgareddau i fodloni anghenion lleol a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr/pobl leol sy’n rhan ohonynt
  • Perchnogion Eiddo yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wella eu hasedau yn defnyddio offer/cymorth ariannol sydd ar gael i gyflawni hyn
  • Gwell mannau gwyrdd ac asedau o fewn canol ein trefi sy’n arwain at gynnydd yn nifer yr ymwelwyr gan greu mwy o fywiogrwydd ac amrywiaeth
  • Cyfraniad cadarnhaol tuag at leihau carbon
  • Gwell parthau cyhoeddus/estheteg sy’n fwy deniadol i ddefnyddwyr canol y dref
  • Cynlluniau Creu Lleoedd wedi’u cwblhau i’w gweithredu ar gyfer y 10 mlynedd nesaf – byddant yn llywio darpariaeth, datblygiad a buddsoddiad gwasanaeth yn y dyfodol ar draws partneriaeth y sector cyhoeddus, preifat a chymunedol
  • Gwell ymgysylltiad rhwng CSFf a busnesau canol y dref, darparwyr gwasanaeth
  • Mwy o fuddsoddiad mewn adfywio wedi’i sicrhau – hwb i’r economi leol 

I gael mwy o wybodaeth wrth i’r rhaglen ddatblygu, gweler yr hyn yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd i gael y newyddion diweddaraf a chynnydd y prosiect.