Alert Section

Sut ydw i'n pleidleisio?

Mae pleidleisio yn rhoi cyfle i chi leisio eich barn ar faterion pwysig sy'n effeithio arnoch chi, eich ardal leol a'ch gwlad.

Sut i bleidleisio

Mae yna 3 ffordd i bleidleisio: 

  • Pleidleisio yn bersonol drwy ymweld â’ch gorsaf bleidleisio agosaf ar ddiwrnod y bleidlais.  
  • Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais gallwch bleidleisio drwy’r post.   
  • Os ydych yn gwybod nad ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan.   Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.  

Byddwch yn derbyn cerdyn pleidleisio yn y post oddeutu 3 i 4 wythnos cyn diwrnod y bleidlais a bydd y cerdyn pleidleisio yn dangos i chi pa un o’r 3 ffordd yr ydych wedi dewis pleidleisio.   Bydd hefyd yn rhoi manylion ar sut y gallwch newid eich dull o bleidleisio a’r dyddiadau cau ar gyfer gwneud hyn.

Peidiwch ag anghofio sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio ac os na gallwch ymgeisio ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Pleidleisio yn bersonol

Pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol, byddwch yn mynd i’r orsaf bleidleisio wedi’i dyrannu i chi yn seiliedig ar eich cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.

Cyn i chi fynd i bleidleisio, gwiriwch ble mae eich gorsaf bleidleisio.  Efallai na fydd yr un agosaf at ble rydych chi’n byw ac mae’n bosibl y bydd wedi newid ers y tro diwethaf i chi bleidleisio.   Mae’n rhaid i chi fynd i’r orsaf bleidleisio wedi’i dyrannu i chi ac ni allwch fynd i un agosach at ble rydych chi’n gweithio, er enghraifft.

Bydd eich gorsaf bleidleisio ar eich cerdyn pleidleisio, a anfonir atoch yn y post ychydig wythnosau cyn diwrnod y bleidlais. Gallwch bleidleisio yno rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod y bleidlais.

Ar gyfer etholiadau Seneddol y DU ac etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd, byddwch angen mynd â llun ohonoch i gadarnhau eich hunaniaeth cyn y gallwch bleidleisio.

Darganfod pa fath o lun adnabod sy’n dderbyniol

Byddwch angen rhoi eich enw a’ch cyfeiriad i staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.   Yn dibynnu ar ba etholiad a gynhelir, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddangos eich llun adnabod.

Byddwch yn derbyn papur pleidleisio sy’n cynnwys manylion ynglŷn â sut i bleidleisio a’r dewisiadau pleidleisio ar gyfer y bleidlais neu refferendwm. Os byddwch angen unrhyw gymorth i fwrw eich pleidlais, gallwch ofyn i’r staff yn yr orsaf bleidleisio.  

Darganfod mwy am bleidleisio yn bersonol

Pleidleisio drwy'r post

Yn hytrach na mynd i’ch gorsaf bleidleisio fe allwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post. Gallwch ymgeisio am bleidlais drwy’r post os ydych ar eich gwyliau neu oherwydd bod eich patrwm gwaith yn golygu na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio.   Gallwch hefyd ddewis i bleidleisio drwy’r post oherwydd y byddai’n fwy cyfleus i chi.

Nid oes angen prawf adnabod â llun arnoch i bleidleisio drwy’r post.

Lawrlwythwch y ffurflen gais i gael pleidlais driwyr post ar wefan y comisiwn etholiadol

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Etholiadol,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NR

Os nad oes gennych beiriant argraffu, yna gallwch e-bostio cofrestr@siryfflint.gov.uk i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.

Darganfod mwy am bleidleisio drwy’r post 

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os nad ydych yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan.   Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais drwy ddirprwy ac mae’r unigolyn sy’n pleidleisio ar eich rhan yn aml yn cael ei alw yn ddirprwy.  Os nad yw’r unigolyn y gallwch ymddiried ynddo yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio, gallant ymgeisio i bleidleisio ar eich rhan drwy’r post.  Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post.  

Lawrlwythwch y ffurflenni cais i gael pleidlais drwy ddirprwy ar wefan y comisiwn etholiadol

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon bydd angen i chi ei hargraffu a’i dychwelyd atom i’r cyfeiriad canlynol:

Gwasanaethau Etholiadol,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6NR

Os nad oes gennych beiriant argraffu, yna gallwch e-bostio cofrestr@siryfflint.gov.uk i ofyn i ni bostio ffurflen gais atoch.

Os ydych yn dewis pleidleisio drwy ddirprwy, yna bydd yn rhaid i’r unigolyn yr ydych wedi ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan fynd â’u prawf adnabod â llun eu hunain.  Os nad oes ganddynt brawf adnabod â llun yna ni fyddant yn cael y papur pleidleisio.

Darganfod mwy am bleidleisio drwy ddirprwy