Mae newidiadau i ddod yn y modd y mae’r system ffôn yn gweithio ar draws y DU ac mae’n bwysig bod ein preswylwyr yn deall effaith hyn arnynt.
Mewn partneriaeth gyda BT, rydym yn rhannu gwybodaeth bwysig am ‘Digital Voice’ i sicrhau bod preswylwyr yn gwybod pa newidiadau sydd i ddod a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf gan BT yn amlinellu sut y bydd isadeiledd ffonau’n newid, cynlluniau BT, a sut y gall preswylwyr baratoi ar gyfer Digital Voice.
"Mae llinellau tir yn y DU yn mynd yn ddigidol.
Erbyn 2025, bydd y dechnoleg analog bresennol (y PSTN - Rhwydwaith Ffôn Cyhoeddus) sydd wedi cefnogi gwasanaethau ffôn a band eang ers degawdau yn cael ei diffodd a’i disodli gan dechnoleg ddigidol newydd.
Bydd yr uwchraddiad unwaith mewn cenhedlaeth yn golygu y bydd mwyafrif helaeth y cwsmeriaid yn derbyn llinell band eang, gan wneud galwadau fel y maent heddiw, ond gan ddefnyddio technoleg ‘Llais dros y Rhyngrwyd’ sy’n defnyddio cysylltiad gyda’r rhyngrwyd.
Mae’r mwyafrif wedi bod yn defnyddio’r math yma o dechnoleg ers blynyddoedd drwy apiau fideo neu negeseuon llais ar ffonau symudol.
Voice yw gwasanaeth ffôn cartref newydd BT, sy’n cael ei ddarparu dros gysylltiad band eang. Ar gyfer mwyafrif y cwsmeriaid, bydd y newid i Digital Voice mor syml â chysylltu ffôn y cartref gyda llwybrydd yn hytrach na soced ffôn ar y wal.
Mae ymagwedd ranbarthol BT yn cael ei chefnogi gan ohebiaeth i godi ymwybyddiaeth gyffredinol yn lleol, digwyddiadau lleol ac ymgyrchoedd hysbysebu i godi ymwybyddiaeth a chynorthwyo cwsmeriaid i ddeall y camau syml sydd eu hangen i symud i Digital Voice.
Byddant yn cysylltu â chwsmeriaid o leiaf 4 wythnos cyn y newid, i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer y newid.
- Cwsmeriaid gyda chortyn gwddf gofal iechyd
- Cwsmeriaid sy’n defnyddio llinell dir yn unig
- Cwsmeriaid heb signal ffôn symudol
- Cwsmeriaid sydd wedi nodi unrhyw anghenion ychwanegol
Bydd BT yn treulio amser ychwanegol ac yn darparu cefnogaeth ychwanegol i gwsmeriaid sydd dros 70 oed ac sy’n barod ar gyfer y newid.”
Mae’n bwysig bod trigolion yn ymgysylltu gyda BT i sicrhau bod eu hanghenion unigol yn cael eu deall a’u datrys yn y broses o newid.
Gyda’i gilydd, drwy gydweithio gyda BT, gall preswylwyr bontio’n llyfn a bydd yn brofiad syml i bawb.
RHYBUDD
Wrth i BT gysylltu â phreswylwyr Sir y Fflint ynglŷn â’r newid i Digital Voice, dylai preswylwyr fod yn wyliadwrus gan y gallai rhai twyllwyr fanteisio ar y cyfnod pontio, gan ffugio bod yn gynrychiolwyr dilys i geisio gwybodaeth bersonol.
Dylai’r preswylwyr wirio dilysrwydd unrhyw ohebiaeth gan BT.