Lleoedd Ysgol Cyfrwng Cymraeg
Ydych chi wedi ystyried addysg drwy gyfrwng y Gymraeg i’ch plentyn?
Nid oes rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg er mwyn i’ch plentyn elwa o addysg cyfrwng Cymraeg. Mae taflen isod “Addysg Gymraeg – Y Gorau o ddau fyd” sy’n darparu gwybodaeth bellach am fanteision ehangach dwyieithrwydd.
Addysg Gymraeg Y Gorau o ddau fyd
Yn Sir y Fflint, mae pum ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg:
Ysgol Glanrafon, Yr Wyddgrug
Ysgol Terrig, Treuddyn
Ysgol Gwenffrwd, Treffynnon
Ysgol Mornant, Gwespyr Picton
Ysgol Croes Atti, y Fflint a Shotton
Ysgol Maes Garmon, (uwchradd).
Mewn ymateb i alw gan y cyhoedd, bu Cyngor Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Sir y Fflint a Mudiad Meithrin i agor ysgol cyfrwng Cymraeg ychwanegol yn Shotton, ar Plymouth Street. Mae Ysgol Croes Atti ar safle Fflint wedi bod ar agor ers mis Medi 2014 ac mae’n parhau i ffynnu. Mae ffurflen gais ar-lein ar wefan mynediad i ysgolion i wneud cais am leoedd mewn unrhyw ysgol cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys Ysgol Croes Atti yng Nglannau Dyfrdwy. Am ragor o wybodaeth, cyflwynwch ymholiad, neu ffoniwch: 01352 704073 / 01352 704019