Gosodwch eich bin allan ar ochr y ffordd erbyn 7am ar fore eich diwrnod casglu. Rhaid i bob bin olwynion/cynhwysydd/bag fod o fewn un metr i gwrtil neu ffiniau eich eiddo (h.y. lle mae eich eiddo'n cwrdd â'r palmant/ffordd). Rhaid i’r criwiau allu eu cyrraedd heb orfod agor giatiau, ac ati. Lle nad yw hyn yn bosib’, dylech osod y cynwysyddion ar y palmant/ymyl y ffordd y tu allan i'r eiddo, mewn lle sy'n rhwystro cyn lleied â phosib' ar y llwybr i ddefnyddwyr y ffordd.
Y pwynt casglu ar gyfer rhai sydd â ffordd breifat hir at eu cartref fydd y man lle mae’r ffordd breifat yn cysylltu â phriffordd (llwybr cerdded/ffordd) sydd yng ngofal y Cyngor.
Lle bo hynny’n briodol, bydd cerbydau casglu’n teithio ar hyd ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu gan y Cyngor, gan alluogi preswylwyr i gyflwyno eu cynwysyddion gwastraff yn yr un lle ar eu heiddo ag y byddent pe bai hi'n ffordd y mae'r Cyngor wedi'i mabwysiadu. Nid yw hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn cynnal a chadw’r ffordd ac os yw'r ffordd yn cael ei hystyried yn anaddas i'r cerbydau, neu os yw perchennog y ffordd yn gwrthod gadael i'r cerbydau ddefnyddio'r ffordd, bydd angen i’r preswylwyr ddod â'u cynwysyddion at y briffordd agosaf sydd wedi’i mabwysiadu.