Alert Section

Treth Cyngor


Sut ac ymhle alla i dalu

Debyd Uniongyrchol

Debyd uniongyrchol yw’r ffordd fwyaf hwylus o dalu ac mae mwyafrif o’n cwsmeriaid yn dewis talu yn y dull hwn.

Rydym yn cynnig dewis o ddyddiadau talu, sef:

  • Bob mis ar y 1af, 8fed, 18fed neu’r 25ain,
  • Yn wythnosol ar ddydd Llun;
  • Bob pedair wythnos ar ddydd Llun;
  • Dwywaith y flwyddyn ar 31 Mai a 30 Medi
  • Yn flynyddol ar 30 Mehefin.

Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn hawdd ac mae newid i’r dull hwn o dalu yn syml, trwy gyflwyno ein.

Cliciwch yma i sefydlu

----------------------------------------------------------------------------------------

Gallwch newid eich dyddiad Debyd Uniongyrchol trwy gwblhau cais ar-lein.

Cliciwch yma i newid eich Dyddiad Taliad Debyd Uniongyrchol

----------------------------------------------------------------------------------------

Gallwch ymestyn eich taliadau Debyd Uniongyrchol dros 12 mis fel bod eich taliad olaf bob blwyddyn ym mis Mawrth.

Cliciwch yma i ymestyn eich taliadau.


Ar-lein

Gallwch dalu ar-lein gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd a debyd, 24 awr y diwrnod

Cliciwch yma i dalu


Taliadau Cerdyn Credyd/Debyd dros y ffôn

Gallwch dalu 24 awr y diwrnod gyda'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd drwy ffonio ein gwasanaeth talu dros y ffôn awtomataidd ar 08453 722724 a dilyn y cyfarwyddiadau a roddir.


Bancio dros y Rhyngrwyd / Ffôn

Gallwch dalu dros y ffôn, bancio rhyngrwyd, PayPal neu arian parod mewn unrhyw fancNodwch fanylion banc y Cyngor;

Cod Didoli - 54 10 10
Rhif Cyfrif - 72521775

a dyfynnu rhif cyfrif Treth y Cyngor fel y dangosir ar eich bil.


Swyddfeydd y Cyngor / Cysylltu
(Oriau agor fel yr hysbysebir)

Rydym yn croesawu taliadau drwy arian parod a'r rhan fwyaf o gardiau credyd neu ddebyd. Dewch â’ch bil gyda chi wrth dalu a chewch dderbynneb.

I gael gwybodaeth o ran oriau agor a chyfeiriadau, dilynwch y ddolen.

Sir y Fflint yn Cysylltu

Eich Bil Treth y Cyngor

Treth a godir yn lleol yw Treth y Cyngor sy’n daladwy ar bob eiddo domestig. Mae Treth y Cyngor yn cynnwys tair ffi neu braesept ar wahân, yn seiliedig ar y band prisio mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi gosod eich eiddo ynddo.

Dyma’r tair ffi wahanol:

  • Cyngor Sir y Fflint
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
  • Eich Cyngor Tref neu Gyngor Cymuned lleol

Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r holl ffioedd hyn ac yna’n eu talu i bob un o’r sefydliadau.

I gael rhagor o wybodaeth am eich bil, ffyrdd i dalu, gostyngiadau ac esemptiadau neu gynlluniau gwariant y cyngor, cliciwch ar y ddolen hon i weld Eich Canllaw i Dreth y Cyngor.

Cliciwch ar y ddolen hon am ragor o wybodaeth am y cynlluniau gwario ar gyfer y Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

Gofynnwch am Gopi o'ch Mesur Treth Gyngor

 

Pwy sy'n gorfod talu?

Codir y dreth gyngor ar y rhan fwyaf o gartrefi pa un a yw'n dŷ, yn fyngalo, yn fflat, yn fflat deulawr neu’n gartref symudol a pha un a yw'r preswylydd yn berchen ar yr eiddo neu'n ei rentu. Fel arfer un person, a elwir yn berson atebol, fydd yn gorfod talu'r dreth gyngor. Nid oes modd i neb dan 18 oed fod yn berson atebol.

Mae cyplau sy’n cyd-fyw ill dau’n atebol, hyd yn oed os un enw’n unig sydd ar y bil. Mae hyn yn berthnasol pa un a yw’r cwpl yn briod, yn cyd-fyw neu mewn partneriaeth sifil. Os yw un partner yn fyfyriwr amser llawn neu â nam meddyliol difrifol, ni fyddant yn atebol.

Y person atebol fel arfer fydd y person sy’n byw mewn eiddo. Mae’n rhaid i ni benderfynu pwy sy’n gorfod talu’r dreth gyngor ar gyfer pob eiddo cyn i ni anfon bil.

Mae’n rhaid i bobl sy’n byw mewn eiddo sy’n brif breswylfa iddynt dalu’r dreth gyngor ar gyfer yr eiddo hwnnw. Byddwn yn eich trin fel preswylydd os ydych chi’n 18 oed a throsodd ac yn byw mewn eiddo sy’n brif breswylfa i chi.

Os oes mwy nag un person yn byw mewn eiddo, rydym yn defnyddio system a elwir yn 'Hierarchaeth Atebolrwydd’ er mwyn gweld pwy fydd yn gorfod talu'r dreth gyngor.

Y person a fydd agosaf at frig yr hierarchaeth fydd yr un sy’n gorfod talu.

Mae gan ddau berson sydd ar yr un pwynt yn yr hierarchaeth yr un cyfrifoldeb dros dalu oni bai bod un ohonynt yn fyfyriwr amser llawn neu â nam meddyliol difrifol.

Os nad oes neb yn byw yn yr eiddo, yna'r perchennog fydd yn gorfod talu'r dreth gyngor.

Mae’r hierarchaeth atebolrwydd fel a ganlyn:

  1. Preswylydd sy'n berchen ar y rhydd-ddaliad
  2. Preswylydd sy'n berchen ar y brydles
  3. Preswylydd sy’n denant sicr neu'n denant diogel neu statudol
  4. Preswylydd sy'n ddeilydd trwydded. Golyga hyn nad ydynt yn denant ond bod ganddynt hawl i aros yno
  5. Unrhyw breswylydd, er enghraifft, sgwatiwr
  6. Perchennog yr eiddo nad yw’n byw yno

Ceir ambell eiddo lle bydd y perchennog, yn hytrach na’r preswylwyr, yn gyfrifol am dalu. Nid yw’r hierarchaeth atebolrwydd yn berthnasol i’r eiddo hyn.

Bydd y perchennog yn atebol yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Tai amlfeddiannaeth, hynny yw lle nad yw’r preswylwyr yn ffurfio un cartref a’u bod yn talu eu rhent ar wahân ar gyfer gwahanol rannau o’r eiddo. Bydd gan y tenantiaid gytundebau tenantiaeth ar wahân fel arfer.
  • Cartrefi gofal preswyl neu gartrefi nyrsio, a rhai mathau o hosteli sy’n darparu gofal
  • Cartrefi â chymunedau Crefyddol yn byw ynddynt
  • Cartrefi y mae’r perchennog yn byw ynddynt yn achlysurol ac y mae’r staff domestig yn preswylio yno hefyd.
  • Eiddo y mae gweinidogion yr efengyl yn byw ynddynt, fel preswylfa ar gyfer cyflawni dyletswyddau gweinidogaethol
  • Eiddo a ddarperir i geiswyr lloches

Beth os ydw i’n credu nad oes raid i mi dalu treth y cyngor?

Os nad ydych chi’n meddwl bod raid i chi dalu Treth y Cyngor, dylech chi gysylltu â ni’n gyntaf. Os nad ydych chi’n hapus gyda’n hymateb ni, gallwch gyflwyno apêl i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Sut mae fy Eiddo yn cael ei Fandio?

Sut allaf i weld ym mha Fand Treth Gyngor yr ydw i?

Chwilio ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio  

Sut y caiff eiddo domestig ei asesu ar gyfer bandiau Treth Gyngor


Sut mae fy eiddo wedi’i brisio?

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gyfrifol am brisio pob eiddo yn Lloegr a Chymru a rhoi eich eiddo mewn un o naw band eiddo. Mae’r Asiantaeth yn un annibynnol ac nid yw’n rhan o’r Cyngor. Ers 1 Ebrill 2005 mae pob eiddo yng Nghymru wedi’i ailbrisio. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cyfrifo’ch band eiddo ar sail prisiau eiddo ar 1 Ebrill 2003. Gelwir hwn yn ‘ddyddiad prisio’.

Mae’r dyddiad gosodedig yn sicrhau bod pob eiddo wedi’i asesu ar bwynt penodol, gan sicrhau system decach i bawb. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ystyried maint, oed, cymeriad ac ardal eich eiddo a data gwerthiant o gwmpas y dyddiad prisio i gael y band prisio cywir. Os adeiladwyd eich eiddo ar ôl 1 Ebrill 2003 bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhoi eich eiddo mewn band yn ôl beth fyddai’i werth ar y dyddiad hwn gan ddefnyddio data gwerthiant cymharol i wneud hyn.


Beth yw’r Bandiau Prisio?

Mae gan bob band amrediad o werth eiddo. Mae faint o Dreth Gyngor yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar fand Prisio yr eiddo yr ydych yn byw ynddo a’r gymuned lle mae’r eiddo.


Sut gallaf i wybod faint y dylwn i dalu?

Os hoffech wybod faint o Dreth Gyngor sy’n ddyledus ar eiddo yr ydych yn byw ynddo, anfon e-bost, gan gofio rhoi cyfeiriad yr eiddo i ni.

Byddwn wedyn yn anfon e-bost atoch i roi gwybod i chi beth yw prisiau diweddaraf y Dreth Gyngor am y flwyddyn ariannol gyfredol. Byddwn yn tybio bod dau yn byw yn yr eiddo ac nad oes gennych hawl i ostyngiadau.

Canllaw Treth y Cyngor

  • Band A - Dan £44,000
  • Band B - £44,001 to £65,000
  • Band C - £65,001 to £91,000
  • Band D - £91,001 to £123,000
  • Band E  - £123,001 to £162,000
  • Band F  - £162,001 to £223,000
  • Band G - £223,001 to £324,000
  • Band H - £324,001 to £424,000
  • Band I   - £424,000 ac uwch

Ydw i’n gallu apelio yn erbyn band prisio fy eiddo?

Gallwch ofyn I Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu’ch band Treth Gyngor os ydych yn meddwl ei fod yn anghywir a’ch bod wedi bod yn drethdalwr am lai na chwe mis, neufod eich band wedi newid yn ystod y chwe mis diwethaf. Os na fydd hyn yn berthnasol gallwch ofyn I Asiantaeth y Swyddfa Brisio adolygu’ch band Treth Gyngor, ond bydd angen i chi roi tystiolaeth ategol gref sy’n dangos pam eich bod yn credu bod eich eiddo yn y band anghywir. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am herio’ch band Treth Gyngor ar wefan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn caniatáu i chi  wirio’ch band a chyflwyno her os ydych o’r farn y gallai’ch band fod yn anghywir.

Gostyngiadau ac Eithriadau

Pan fyddwn ni’n pennu’r Dreth Gyngor, rydym yn cymryd yn ganiataol bod dau berson 18 oed neu hŷn, yn byw yn yr eiddo. Mae rhai pobl yn cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Mae hyn yn golygu na fyddant yn cael eu cyfrif fel rhywun sy’n byw yn yr eiddo pan fyddwn yn penderfynu faint o Dreth Gyngor y dylech ei dalu.

Er enghraifft, os oes dau oedolyn yn byw yn yr eiddo ac mae un ohonynt yn cael ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor, byddwn yn pennu’ch taliadau fel pe bai dim ond un person yn byw yn yr eiddo a chewch ostyngiad o 25%. Byddwch yn cael yr un gostyngiad o 25% wrth gwrs os mai chi yw’r unig un sy’n byw yn yr eiddo.

Mae gwahanol ostyngiadau ar gael ac maent wedi’u rhestru isod:

Lawrlwythwch ffurflen gais a’i dychwelyd atom ar ôl ei llenwi neu cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth a chyngor.


Gostyngiad Person Sengl

Os chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, cewch ostyngiad o 25%. Cwblhewch ffurflen gais

Os bydd rhywun dros 18 oed yn ymuno â'ch cartref neu fod rhywun ar yr aelwyd yn cyrraedd 18 oed, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni. Cliciwch yma i roi gwybod i ni.


Gostyngiad i Berson sy’n cael ei Ddiystyru

Mae nifer o wahanol fathau:


Person sy’n gaeth

Mae’r gostyngiad hwn ar gael i bobl sy’n byw yn yr eiddo fel arfer ond sy’n mewn carchar, yn yr ysbyty neu’n cael eu dal yn rhywle arall am unrhyw reswm. Nid yw’r gostyngiad ar gael i bobl sydd yn y ddalfa am wrthod talu’r Dreth Gyngor. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Pobl â nam meddyliol difrifol

Bydd person sydd â nam meddyliol difrifol yn cael ei ddiystyru ar ddibenion y Dreth Gyngor. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Pobl y telir budd-daliadau mewn perthynas â nhw

Mae’r gostyngiad hwn ar gael os ydych yn dal yn cael budd-dal plant ar gyfer person dros 18 oed. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Pobl sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg

Mae pobl 18 neu19 oed sy’n gadael ysgol neu’n gorffen cwrs mewn coleg addysg bellach ar ôl 30 Ebrill mewn unrhyw un flwyddyn yn cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor tan 1 Tachwedd y flwyddyn honno. 
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein


Myfyrwyr

Mae myfyrwyr llawn amser yn cael eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor yn ystod unrhyw gyfnod lle maent yn dal yn cael eu hystyried yn fyfyrwyr. Cwblhewch ein ffurflen gais ar-lein


Nyrsys dan hyfforddiant

Mae nyrsys dan hyfforddiant yn cael eu diystyru os ydynt yn dilyn cwrs i fod yn Nyrs, Bydwraig neu Ymwelydd Iechyd cofrestredig. Lawrlwythwch ffurflen gais.

Prentisiaid Gellir diystyru prentisiaid sy’n ennill llai na £195 yr wythnos gros tra maent yn dal yn cael eu hystyried yn brentis.


Pobl sy’n dilyn cwrs Hyfforddiant Ieuenctid

Caiff Hyfforddeion Ifanc dan 25 oed sy’n cael hyfforddiant drwy gyflogaeth briodol eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Cleifion mewn ysbyty

Os mai unig gartref swyddogol person yw ysbyty’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu gartref gofal cofrestredig, caiff ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Cleifion mewn Cartrefi

Os mai unrhyw gartref swyddogol person yw cartref gofal preswyl, cartref nyrsio meddyliol neu hostel yng Nghymru neu Loegr, ac sy’n cael gofal neu driniaeth mewn cartref neu hostel, caiff y person hwnnw ei ddiystyru at ddibenion y Dreth Gyngor. Lawrlwythwch ffurflen gais.


Gofalwyr

Caiff gofalwyr eu diystyru at ddibenion y Dreth Gyngor cyhyd â’u bod yn bodloni amodau’r diffiniad swyddogol ar gyfer gofalwyr. Gofalwch eich bod yn darllen y diffiniad ar y ffurflen gais. Lawrlwythwch ffurflen gais


Gweithwyr gofal

Os ydych chi’n weithiwr gofal sy’n rhoi gofal ar ran corff swyddogol neu elusennol ac yn ennill dim mwy na £44 yr wythnos am wneud hynny. Cysylltwch â ni i weld a fedrwch chi hawlio gostyngiad.


Unigolion sy’n Gadael Gofal

Mae unigolion sy’n gadael gofal yn cael eu diystyru os ydyn nhw rhwng 18 a 25 oed ac nad ydyn nhw’n derbyn gofal gan awdurdod lleol mwyach, ond eu bod wedi derbyn gofal ar eu pen-blwydd yn 16 oed, neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny. Llwythwch ein ffurflen gais


Aelodau Cymunedau Crefyddol

Os yw person yn aelod o gymuned grefyddol ac mae’n treulio’r rhan fwyaf o’i amser yn gweddïo, myfyrio, dysgu, lleihau dioddefaint neu gyfuniad o’r rhain, caiff ei ddiystyru at ddibenion y Dreth GyngorI wneud cais am ostyngiad.
Cwblhewch ein ffurflen ar-lein


Gofalwr Maeth

Bydd Gofalwyr Maeth sydd ar restr Gofalwyr Maeth cymeradwy’r Awdurdod Lleol, yn derbyn gostyngiad o 50%. Bydd y gostyngiad yn cael ei roi yn awtomatig. Bydd Gofalwyr Maeth sy’n maethu ar gyfer Sir y Fflint, ond yn byw tu allan i’r sir ac yn talu treth y cyngor i awdurdod lleol arall, yn derbyn cymorth ariannol drwy grant misol sy’n gyfwerth â gostyngiad o 50% yn nhreth y cyngor.

I gael rhagor o wybodaeth am faethu ar gyfer Cyngor Sir y Fflint, cliciwch yma


Gostyngiad Treth Gyngor oherwydd Anabledd

Os oes arnoch chi, neu berson sy'n byw ar eich aelwyd, angen ystafell neu le ychwanegol yn eich cartref oherwydd anabledd, mae'n bosibl y gallwn leihau swm y Dreth Gyngor y mae angen i chi ei dalu.

Nid yw bob amser yn dilyn y cewch ostyngiad oherwydd bod person wedi'i gofrestru fel person anabl. Mae'r meini prawf yn ymwneud ag adeiladwaith eich eiddo.

Gallwch gael gostyngiad os yw'r amodau a ganlyn yn gymwys a'u bod yn hanfodol, neu'n hynod o bwysig, i les y person anabl sy'n byw ar yr aelwyd:

  • Mae ystafell, ac eithrio ystafell ymolchi, cegin, neu doiled, yn cael ei defnyddio'n bennaf gan y person anabl i ddiwallu ei anghenion.
  • Mae angen ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol i ddiwallu anghenion person anabl
  • Mae digon o le i ddefnyddio cadair olwyn yn yr eiddo, os oes angen

Does dim rhaid i chi fod wedi addasu'r eiddo'ch hun. Cyhyd ag y bo un o'r amodau uchod yn gymwys, mae'n bosibl y gallwch hawlio gostyngiad.

Mae'n bosibly bydd angen i Arolygwr y Dreth Gyngor ddod draw i weld yr eiddo i gadarnhau'r newidiadau a wnaed i'ch eiddo. Fel arfer, bydd yr arolygydd yn cysylltu â chi i drefnu'r ymweliad. Cofiwch y bydd ganddo gerdyn adnabod.

Os byddwn yn rhoi gostyngiad i chi oherwydd anabledd, bydd eich Treth Gyngor yn cyfateb i'r band sy'n is na'ch gwir fand prisio. e.e. os yw'ch eiddo ym mand D, byddwch yn talu Treth Gyngor ar gyfradd band C . Os yw'ch eiddo ym mand A, cewch ostyngiad sy'n cyfateb i 1/9 o'r tâl ar gyfer band D yn eich ardal.

Os ydych am wneud cais am ostyngiad oherwydd anabledd gallwch lawrlwytho ffurflen gais


Gostyngiad Treth y Cyngor

Os mai chi sy’n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor ac os ydych chi ar incwm isel, gallai fod modd i chi gael help i dalu eich bil Treth y Cyngor i gyd neu ran ohono. Am fwy o wybodath a am sut i wenud cais ewch i'n Tudalennau Gostyngiad Treth y Cyngor

Chynllun Premiwm Treth y Cyngor

Eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn Sir y Fflint yn destun premiwm Treth y Cyngor.

Bydd premiwm Treth y Cyngor yn cael ei godi ar eiddo nad yw mewn defnydd fel unig neu brif breswylfa rhywun oherwydd ei fod wedi’i ddynodi’n ail gartref neu’n gartref gwag hirdymor.

• Mae Premiwm Treth y Cyngor o 75% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor (eiddo sydd wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am 12 mis neu fwy).

• Mae Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar ail gartrefi (eiddo nad yw’n unig gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi ei ddodrefnu’n helaeth).

Mae’r Cynllun Premiwm yn newid o 1 Ebrill 2025.

Yng nghyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar 24 Medi 2024, penderfynodd aelodau etholedig amrywio cyfraddau’r premiwm i ddod yn effeithiol o fis Ebrill 2025.

• O 1 Ebrill 2025 codir Premiwm Treth y Cyngor o 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor ar eiddo gwag hirdymor (eiddo sydd wedi bod yn wag a heb fawr ddim dodrefn ynddo am 12 mis neu fwy).

• O 1 Ebrill, ni fydd newid i’r premiwm a godir ar ail gartrefi (eiddo nad yw’n gartref neu’n brif gartref person ac sydd wedi’i ddodrefnu’n helaeth), a fydd yn parhau i fod yn 100% yn ychwanegol at gyfradd safonol Treth y Cyngor.

Newidiadau Pellach i’r Cynllun Premiwm o 1 Ebrill 2026

O fis Ebrill 2026, bydd unrhyw eiddo a oedd yn eiddo gwag hirdymor am gyfnod estynedig o amser yn destun lefel cynyddol o bremiwm sy’n cael ei bennu gan ba mor hir y bu’r eiddo’n wag.  Bydd y cyfraddau premiwm newydd yn gymwys i eiddo gwag hirdymor fel yr isod, i’w hannog i’w defnyddio eto.

• 150% ar gyfer eiddo sy’n wag am 3 blynedd neu ragor
• 200% ar gyfer eiddo sy’n wag am 5 blynedd neu ragor
• 300% ar gyfer eiddo sy’n wag am 10 blynedd neu ragor

A oes unrhyw eithriadau i’r premiwm?

Mae rhai eithriadau lle nad oes rhaid i eiddo gwag hirdymor neu ail gartref dalu Premiwm Treth y Cyngor:

  • Dosbarth 1
    Anheddau wedi’u marchnata i’w gwerthu – mae’r eithriad hwn wedi’i gyfyngu i flwyddyn
  • Dosbarth 2
    Anheddau wedi’u marchnata i’w gosod – mae’r eithriad hwn wedi’i gyfyngu i flwyddyn
  • Dosbarth 3
    Anecsau sy’n ffurfio rhan o brif annedd, neu sy’n cael eu trin fel rhan o brif annedd
  • Dosbarth 4
    Anheddau a fyddai’n unig breswylfa neu’n brif breswylfa pe na baent yn byw mewn llety’r lluoedd arfog
  • Dosbarth 5
    Lleiniau carafán ac angorfeydd cychod wedi’u meddiannu lle nad oes preswylydd yn byw yn y garafán neu'r cwch ar hyn o bryd, ond y bydd y garafán neu'r cwch yn unig neu'n brif breswylfa person y tro nesaf y cânt eu defnyddio.
  • Dosbarth 6
    Lle caiff preswylio gydol y flwyddyn ei wahardd gan amodau cynllunio atal preswylio am:
    • gyfnod parhaus o hyd at o leiaf 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn; neu
    • nodi fod yr annedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ gosod byrdymor yn unig; neu
    • atal preswylio fel prif neu unig annedd yr unigolyn.”
  • Dosbarth 7
    Anheddau sy'n gysylltiedig â swyddi lle mae eiddo yn wag oherwydd bod yr unigolyn sy’n gysylltiedig â’r annedd bellach yn preswylio mewn annedd arall sy’n gysylltiedig â’u swydd (fel y diffinnir gan Reoliadau).

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys am unrhyw un o’r eithriadau uchod, llenwch ein ffurflen ar-lein drwy glicio yma


Beth os nad yw fy eiddo’n gymwys am eithriad?

Bydd gofyn i chi dalu’r Premiwm Treth Cyngor, fodd bynnag, mae gan y Cyngor gynlluniau ar waith i’ch helpu i ddod â’ch eiddo yn ôl i ddefnydd fel prif breswylfa. Os hoffech weithio gyda’r cyngor er mwyn gallu defnyddio’r eiddo’n llawn amser eto, mae’n bosibl y gallwn eich helpu.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar www.siryfflint.gov.uk/gbt

Esemptiadau Ar gael Ar gyfer Fy Eiddo

Nid yw'r Dreth Gyngor yn berthnasol i bob eiddo. Mae'r mwyafrif o esemptiadau'n berthnasol pan nad oes unrhyw un yn byw mewn eiddo, ond ambell waith mae eiddo lle mae pobl yn byw yn gallu bod yn destun esemptiad hefyd.

Ar y dudalen hon, ceir disgrifiad cryno o'r gwahanol fathau o esemptiadau sydd ar gael.


Esemptiadau gyda Therfyn Amser


  • Dosbarth A
    Eiddo gwag lle mae gwaith atgyweirio mawr / newidiadau strwythurol yn ofynnol / yn digwydd

    Gall yr esemptiad hwn fod yn berthnasol i eiddo gwag lle mae gwaith atgyweirio sylweddol neu newidiadau strwythurol yn ofynnol neu'n digwydd a gellir gosod yr esemptiad am uchafswm o 12 mis.

    Os yw’r gwaith yn parhau a’r eiddo’n dal i fod heb ei feddiannu ar ôl 12 mis, bydd tâl llawn Treth y Cyngor yn ddyledus yn ogystal â phremiwm ar gyfer eiddo gwag hirdymor, sydd ar hyn o bryd yn 75% yn ychwanegol.  Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun premiwm ar gael yma:
    Chynllun Premiwm Treth y Cyngor


    Gwneud cais ar-lein


  • Dosbarth B
    Eiddo gwag sy'n perthyn i elusen

    Mae eiddo gwag sy'n perthyn i elusen ac a ddefnyddiwyd ddiwethaf at ddibenion elusennol yn destun esemptiad 6 mis.

  • Dosbarth C
    Eiddo gwag heb ei ddodrefnu

    Mae eiddo gwag heb ei ddodrefnu yn destun esemptiad chwe mis. Mae eiddo sydd newydd ei adeiladu yn destun esemptiad hyd at chwe mis ar ôl iddo gael ei gwblhau cyhyd â bod yr eiddo yn dal yn wag ac heb ei ddodrefnu.

  • Dosbarth F
    Eiddo sy'n wag yn dilyn marwolaeth y deiliad

    Gall yr eithriad hwn fod yn berthnasol pan fydd eiddo’n cael ei adael yn wag yn dilyn marwolaeth y preswylydd sy’n atebol i dalu’r dreth gyngor. Bydd yr eithriad yn berthnasol dim ond os mai’r person ymadawedig oedd yr unig berchennog a’i fod yn parhau felly neu hyd at ddiwedd ei gytundeb tenantiaeth.

    Daw'r esemptiad i ben 6 mis ar ôl i grant profiant neu lythyrau gweinyddu gael eu dyfarnu. Daw'r esemptiad i ben hefyd os daw'r eiddo'n wag; neu os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo i fuddiolwr; neu os caiff ei ail-osod fel eiddo rhent.


Eiddo gwag sy'n destun esemptiad cyhyd â'u bod yn wag


  • Dosbarth D
    Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan bobl sydd yn y carchar

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo gwag lle mae'r perchennog neu'r tenant yn cael ei gadw mewn carchar, ysbyty neu ganolfan gadw arall.


  • Dosbarth E
    Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i ysbyty neu gartref gofal

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae rhywun wedi gadael ei eiddo yn wag i dderbyn gofal neu driniaeth mewn ysbyty, cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu hostel. Bydd yr esemptiad yn berthnasol os nad yw'r deiliad yn bwriadu dychwelyd i'r eiddo.


  • Dosbarth G
    Eiddo lle mae daliadaeth yn cael ei gwrthod gan y gyfraith

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol mewn eiddo lle caiff daliadaeth ei gwrthod gan y gyfraith.


  • Dosbarth H
    Eiddo gwag megis ficerdy sy'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefyddol

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sydd wedi'i adael yn wag ar gyfer gweinidog crefyddol a fydd yn perfformio dyletswyddau ei swydd o'r eiddo.


  • Dosbarth I
    Eiddo gwag sydd wedi'i adael yn wag gan fod y sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor wedi mynd i fyw i rywle arall i dderbyn gofal personol

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae rhywun wedi gadael eiddo'n wag i fynd i fyw gyda rhywun arall er mwyn derbyn gofal personol oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau nawr neu yn y gorffenol, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol. 


  • Dosbarth J
    Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan unigolyn sy'n darparu gofal personol

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae unigolyn wedi gadael ei eiddo'n wag er mwyn mynd i fyw at rywun i ddarparu gofal personol iddynt oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau nawr neu yn y gorffenol, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol.


  • Dosbarth K
    Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan fyfyriwr

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol os yw'r eiddo gwag yn perthyn i fyfyriwr neu os mai myfyriwr oedd y deiliad diwethaf i fyw yno.


  • Dosbarth L
    Eiddo gwag sydd wedi'i ailfeddiannu

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sydd wedi'i adael yn wag ac wedi'i ailfeddiannu gan ddarparwr morgeisi. Os nad yw'r eiddo'n wag ar ddyddiad yr adfeddiant, daw'r esemptiad i rym ar y dyddiad y daw'n wag.


  • Dosbarth Q
    Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan rywun sy'n fethdalwr

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle byddai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor am eiddo gwag yn fethdalwr.


  • Dosbarth R
    Llain carafán neu angorfa cwch sydd wedi'u gadael yn wag

    Mae llain carafán gwag (heb garafan), neu angorfa wag (heb gwch), yn destun esemptiad.


  • Dosbarth T
    Rhandy gwag wrth eiddo gwag

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i randai sy'n ffurfio rhan o adeiladau sy'n cynnwys eiddo arall a lle na fyddai'r rhandy gwag yn cael ei osod ar wahân heb dorri rheolau cynllunio. Gallai'r esemptiad fod yn berthnasol p'un a yw'r rhandy wedi'i ddodrefnu ai peidio.


Eiddo sy'n destun esemptiad tra bo pobl yn byw yno


  • Dosbarth M
    Neuaddau Preswyl Myfyrwyr

    Mae neuaddau preswyl i fyfyrwyr yn destun esemptiad cyn belled â bo'r llety yn perthyn neu'n cael ei reoli gan sefydliad addysgol penodedig; corff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig; neu sy'n destun cytundeb sy'n galluogi sefydliad addysgol i enwebu mwyafrif y myfyrwyr preswyl.


  • Dosbarth N
    Eiddo sy'n gartref i fyfyrwyr yn unig

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae holl breswylwyr yr eiddo yn fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol penodedig neu sydd wedi gadael ysgol neu goleg.


  • Dosbarth O
    Lletyau'r lluoedd arfog

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i letyau ar gyfer lluoedd arfog y DU sy'n perthyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn p'un a ydynt wag ai peidio. 

    Mae hyn yn cynnwys barics neu letyau eraill mewn canolfannau milwrol, ynghyd â lletyau priod ac anheddau eraill, waeth ble maent wedi'u lleoli, cyn belled â bo'r llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y lluoedd.


  • Dosbarth P
    Eiddo ar gyfer lluoedd sy'n ymweld neu aelodau o sefydliadau amddiffyn rhyngwladol, neu eu dibynyddion

    Mae eiddo'n destun esemptiad os yw'r deiliaid sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor yn aelodau (neu'n ddibynyddion i aelodau) o lu sy'n ymweld.


  • Dosbarth S
    Eiddo sy'n gartref i bobl dan 18 oed yn unig

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sy'n gartref i ddeiliaid dan 18 oed yn unig.


  • Dosbarth U
    Eiddo sy'n gartref i bobl â salwch meddwl difrifol a fyddai fel arall yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor yn unig

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo lle mae'r deiliaid yn atebol i dalu'r dreth gyngor ac sydd i gyd yn unigolion sy'n cael eu hystyried i fod â Salwch Meddwl Difrifol.


  • Dosbarth V
    Eiddo sy'n brif breswylfa i unigolion â breintiau neu imiwnedd diplomyddol

    Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol os yw'r eiddo yn brif breswylfa i o leiaf un unigolyn sydd â breintiau neu imiwnedd diplomyddol yn y DU.


  • Dosbarth W
    Rhandy sy'n gartref i rywun wrth eiddo sy'n gartref i rywun

    Mae eiddo yn destun esemptiad os yw'n ffurfio rhan o eiddo sengl sy'n cynnwys o leiaf un annedd arall sy'n gartref i berthynas hen neu anabl y perchennog sy'n byw yn y rhan arall. Eiddo â fflat neu randy ar wahân lle mae un rhan o'r eiddo yn gartref i berthynas hen neu anabl y perchennog, sy'n byw yn y rhan arall.


  • Dosbarth X
    Gall y sawl sy’n gadael gofal gael ei ddiystyru rhag talu Treth y Cyngor nes byddant yn 25 oed

    Mae’r “sawl sy’n gadael gofal” yn cael ei ddiffinio fel person ifanc categori 3 o dan yr ystyr a roddir yn adran 104 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (1).

    Mae’r sawl sy’n gadael gofal yn cael ei ddiystyru rhag talu Treth y Cyngor nes byddant yn 25 oed.

    Mae eiddo lle mae’r sawl sy’n gadael gofal yn byw eu hunain gyda phobl eraill sy’n gadael gofal, myfyrwyr llawn amser, plant sy’n gadael yr ysgol neu rywun â hawl i fudd-dal plant yn cael eu heithrio.


Os hoffech fwy o wybodaeth am esemptiadau'r Dreth Gyngor, neu os oes angen cyngor arnoch neu os hoffech wneud cais, cysylltwch â ni.

Symud Tŷ

Os hoffech gofrestru ar gyfer y Dreth Gyngor, neu os os hoffech ein hysbysu eich bod wedi symud, llenwch ein ffurflen symud cartref ar-lein.

Cliciwch yma i lenwi ein ffurflen symud cartref

----------------------------------------------------------------------------------------

I'n galluogi i gofrestru'ch manylion yn gyflym ac yn gywir, byddai'n help pe baech yn rhoi'ch rhif ffôn rhag ofn y bydd angen i ni gysylltu â chi.

Gallwch hefyd ddefnyddio'r ffurflen i roi gwybod i ni eich bod wedi prynu eiddo hyd yn oed os nad ydych wedi symud i mewn eto.

Os ydych yn dymuno talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, a fyddech cystal â llenwi mandad Debyd Uniongyrchol ar-lein yma.

Yna gallwn anfon bil atoch gyda'ch rhif cyfrif personol arno. Dylech ddyfynu eich rhif cyfrif wrth gysylltu â ni neu wrth wneud taliad.

Gwybodaeth i Landlordiaid

Mae'r cyfrifoldeb am dalu'r Dreth Gyngor yn dibynnu ar ba fath o drefniant gosod rydych chi wedi'i sefydlu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i un person neu deulu, cyfrifoldeb y person neu'r teulu yw talu'r Dreth Gyngor a bydd bil yn cael ei anfon at y person/teulu.

Os ydych yn rhentu'r eiddo cyfan i fwy nag un person ond tenantiaid ar y cyd ydynt, eu cyfrifoldeb hwy yw talu'r Dreth Gyngor yn y rhan fwyaf o amgylchiadau a byddwn yn anfon bil atynt.

Os ydych yn rhentu eiddo i nifer o bobl a bod gan bob un gytundeb tenantiaeth unigol gyda chi, mae'r eiddo'n cael ei ystyried yn Dŷ Amlfeddiannaeth at ddibenion y Dreth Gyngor. Chi, fel y landlord, fydd yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor a byddwch yn cael y bil.

Er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o'r Dreth Gyngor, mae angen i ni wybod pryd mae eich amgylchiadau'n newid. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthym os ydych yn landlord a bod gennych denant newydd.

Rhoi gwybod i ni am newid tenantiaeth

 

Os ydych yn rhentu eich eiddo gyda dodrefn, pan na fydd unrhyw un yn byw yno, bydd rhaid i chi dalu 100% o dreth y cyngor safonol, yn ogystal â phremiwm o 100%.  Fodd bynnag, ni fydd rhaid talu’r premiwm am uchafswm o 12 mis os bydd yr eiddo yn cael ei farchnata i’w osod.

Os ydych chi’n teimlo bod gennych hawl i’r eithriad hwn rhag talu’r premiwm ar eich eiddo, llenwch ein ffurflen gais fer ar-lein yma.

Gadael i ni wybod bod rhywun wedi marw

Os ydych chi angen dweud bod rhywun sydd yn talu Treth y Cyngor wedi marw’n ddiweddar, gallwch adrodd hyn drwy’r ffurflen Dywedwch Wrthym Unwaith ar wefan gov.uk.

Cliciwch yma i adrodd

Bydd yr hysbysiad yma’n cael ei adrodd i bob adran briodol o’r Cyngor.


Os hoffech chi adrodd hyn i swyddfa Treth y Cyngor yn uniongyrchol, gallwch wneud hynny drwy:

  • Ffonio Llinell Gymorth Treth y Cyngor ar 01352 704848
  • E-bostio local.taxation@flintshire.gov.uk
  • Drwy ysgrifennu i Wasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NA.

Fe fyddwn ni angen y wybodaeth ganlynol gennych chi:

  • Enw a dyddiad marwolaeth yr unigolyn a fu farw
  • Cyfeiriad yr eiddo roeddynt yn byw ynddo.
  • Pa unai oes angen gostyngiad person sengl rŵan.

Os oedd yr unigolyn a fu farw yn talu treth y cyngor, byddwn hefyd angen y wybodaeth ganlynol:

  • Enwau a chyfeiriadau unrhyw ysgutorion i’r ewyllys
  • Enw a chyfeiriad y cyfreithiwr a benodwyd os ydych chi’n dymuno i’r Cyngor ddelio â chyfreithiwr.

Mae hi’n bwysig bod yr ysgutor/ysgutorion yn rhoi gwybod i’r Cyngor am:-

  • Ddyddiad y grant profiant
  • Manylion trosglwyddo’r eiddo neu ddyddiad terfynu’r denantiaeth os ydi’r eiddo’n cael ei rentu.
  • Dyddiad y symudwyd dodrefn o’r eiddo.

Os ydych chi’n rhoi gwybodaeth yn fuan ar ôl marwolaeth unigolyn, mae’n bosibl na fydd modd i chi roi eu henw, cyfeiriad a dyddiad y farwolaeth. Gallwch roi rhagor o wybodaeth unwaith y bydd ar gael. Cofiwch gynnwys eich enw, cyfeiriad a rhif ffôn ar bob gohebiaeth.

Yn ystod y cyfnod yma serch hynny, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn cysylltu â’r ysgutorion o dro i dro er mwyn adolygu’r hawl i’r esemptiad a roddwyd.


Roedd yr unigolyn a fu farw yn byw ar eu pen eu hunain – sut mae hyn yn effeithio ar dreth y cyngor yr eiddo?

Pan fydd rhywun yn byw ar eu pen eu hunain a bod yr unigolyn hwnnw’n marw, mae’n bosibl na fydd yna dreth y cyngor i’w dalu cyn belled a bod yr eiddo’n wag nes y bydd yn cael ei feddiannu eto, neu nes y grant profiant.

Os bydd yr eiddo’n parhau heb ei feddiannu ar ôl grant profiant, mae’n bosibl y gellir dyfarnu cyfnod pellach o hyd at chwe mis o esemptiad ar yr amod bod yr eiddo’n aros yn wag ac nad yw wedi cael ei werthu na’i drosglwyddo i rywun arall.

Bydd yr esemptiad yma hefyd yn berthnasol pan fydd tenant yn marw os mai eu cynrychiolydd personol fydd yn parhau’n atebol am y rhent ar ôl dyddiad y farwolaeth.


Sut yr effeithir ar dreth y cyngor pan oedd dau oedolyn yn byw yn yr eiddo?

Pan oedd eiddo’n cael ei feddiannu gan ddau oedolyn yn y gorffennol, mae’n bosibl bod y bil treth y cyngor wedi bod o dan enw’r ddau unigolyn neu yn enw un o’r meddianwyr yn unig.

Os mai dim ond un person sy’n parhau i feddiannu’r eiddo, fe fydd y bil treth y cyngor yn cael ei roi yn eu henw nhw a bydd gostyngiad person sengl yn cael ei ddefnyddio, gan roi gostyngiad o 25%.


Beth os oes mwy na dau oedolyn yn byw yn yr eiddo?

Os oedd mwy na dau oedolyn yn byw yn yr eiddo a bod un unigolyn yn marw, mae’n bwysig bod bil treth y cyngor yn enwau’r meddianwyr sy’n parhau. Cysylltwch â ni gyda’r wybodaeth hon cyn gynted â phosibl.


A fydd yr ysgutorion (cynrychiolwyr personol) yn atebol am dreth y cyngor?

Pan fydd grant profiant wedi’i roi, bydd yr ysgutor yn derbyn dogfen a fydd yn rhoi awdurdod iddynt ddelio â’r ystâd. Os bydd perchenogaeth yr eiddo yn cael ei drosglwyddo i fuddiolwr yr ewyllys ar ôl grant profant, bydd atebolrwydd i dalu'r dreth gyngor yn cael eu pasio iddyn nhw.

Os bydd yr eiddo’n parhau o dan reolaeth yr ystâd am fwy na chwe mis ar ôl dyddiad y profiant, bydd yr Ysgutor yn gyfrifol am dalu unrhyw dreth y cyngor sy’n ddyledus.

Bydd rhaid talu 100% o dreth y cyngor safonol, yn ogystal â phremiwm o 100% ar eiddo sy’n parhau i fod yn wag, ond wedi’i ddodrefnu, chwe mis ar ôl cael y profiant.  Mae amgylchiadau pan na fydd rhaid talu’r premiwm, sy’n cynnwys eithriad am gyfnod o 12 mis os yw’r eiddo’n cael ei farchnata i’w werthu neu ei osod.

Os yw’r eiddo ar y farchnad ar hyn o bryd, llenwch y ffurflen fer ar-lein i gael eithriad rhag talu’r premiwm, drwy glicio yma.

Sylwch nad yr ysgutor sydd yn bersonol atebol am fil treth y cyngor a dylai unrhyw daliad gael ei wneud o ystâd yr ymadawedig.

Gweld eich cyfrif ar-lein

Fy Nghyfrif Sir y Fflint yw ein gwasanaeth newydd diogel ar-lein sy’n caniatáu i chi weld manylion eich cyfrif Treth y Cyngor yn ogystal â gweld manylion a gofyn am nifer o wasanaethau eraill y Cyngor.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru a chael eich enw defnyddiwr a chyfrinair, bydd modd i chi ddefnyddio’r gwasanaeth i wneud y canlynol:

  • Gwirio pryd mae eich taliad nesaf yn ddyledus
  • Gweld gwerth unrhyw ostyngiad rydych chi’n ei gael
  • Gwneud taliadau ar-lein
  • Adolygu taliadau rydych wedi eu gwneud
  • Rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau
  • Gweld unrhyw geisiadau am fudd-daliadau yn ymwneud â’ch treth y cyngor
  • Gweld negeseuon neu gamau gweithredu ar gyfer eich cyfrif

Cliciwch yma i gofrestru neu fewngofnodi i Fy Nghyfrif Sir y Fflint.

Derbyn Eich Bil Treth y Cyngor Drwy E-bost

Sut ddylwn i gofrestru ar gyfer e-filio?

Amddiffyn yr amgylchedd. Ymunwch â dros 19,000 o breswylwyr a chofrestru i gael eich bil ar e-bost. I gofrestru i dderbyn e-filiau, llenwch y ffurflen gais fer.

Ffurflen gais e-filio

Canllawiau pwysig ynghylch defnyddio gwasanaeth e-filio i’r cyngor isod.

Canllawiau pwysig ynghylch e-filio.

Beth yw manteision e-filiau?

Bydd e-filiau’n cynnig ffordd gyflymach, fwy effeithlon a hwylus i chi dderbyn a gwirio eich biliau. Dyma rai o’r manteision:

  • Gallwch weld eich bil cyn gynted ag y bydd ar gael a chadw copi ohono ar ffeil.
  • Gallwch barhau i lawrlwytho ac argraffu eich bil.
  • Gallwch ailddosbarthu copïau o filiau’n gyflym ac yn electronig.
  • Gall bob un a enwir ar y bil dderbyn copi eu hunain i’r cyfeiriad e-bost a roddir ar gyfer pob unigolyn.
  • Rhoddir y biliau’n uniongyrchol i’r derbynnydd dan sylw ac nid oes unrhyw oedi yn y post.
  • Mae’n helpu’r cyngor i leihau costau argraffu a phostio.
  • Mae’n helpu i ddiogelu’ch amgylchedd drwy arbed papur.

Ad-daliad Credyd

Os ydych chi wedi derbyn bil yn dangos credyd ar eich cyfrif Treth y Cyngor, gallwch hawlio'r credyd hwn gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cliciwch Yma i Hawlio eich Ad-daliad o Dreth y Cyngor

Problemau â Thalu Eich Bil

Os ydych chi’n cael trafferth talu’ch Treth Gyngor, dywedwch wrthym. Rydym yn awyddus i’ch helpu chi i dalu’r Dreth Gyngor ac mae’n bosibl i ni ddod i ryw drefniant y gallwch ei fforddio. Os na fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn cael trafferth gwneud eich taliadau rheolaidd, mae’n bosibl y byddwn yn codi taliadau ychwanegol arnoch.

Cliciwch yma i weld Polisi Casglu Dyledion Teg Cyngor Sir y Fflint


Rwy’n ei chael hi’n anodd talu fy Nhreth Gyngor ar y dyddiadau talu. Fedra’ i newid fy nyddiad talu?

Os ydi’ch dyddiad talu’n anghyfleus, beth am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol gan fod hynny’n rhoi mwy o hyblygrwydd i chi. Gallwch dalu ar y 1af, 8fed, 18fed neu’r 25ain diwrnod o bob mis neu bob wythnos, os yw'n well gennych.

Os byddwch yn talu drwy Ddebyd Uniongyrchol, gallwch fod yn sicr y bydd eich taliad yn ein cyrraedd mewn da bryd ac na fydd angen i chi boeni y byddwn yn cymryd unrhyw gamau i’w adennill.

Mae sefydlu Debyd Uniongyrchol yn hawdd ac mae newid i’r dull hwn o dalu yn syml, trwy gyflwyno ein.

Cliciwch yma i sefydlu


Talu Treth y Cyngor dros 12 mis

Er mwyn gallu rheol taliadau yn well, gallwch rannu’r taliadau dros 12 mis o Ebrill – Mawrth. Os nad ydych yn dymuno talu trwy ddebyd uniongyrchol, mae’r taliadau hyn yn daladwy ar y 1af o bob mis.


Beth ddigwyddith os na fyddaf yn talu?

Os na fyddwch yn talu’ch Treth Gyngor mewn da bryd, byddwn yn anfon llythyr i’ch atgoffa. Os na fyddwch yn talu’r swm dyledus cyn pen 7 diwrnod, neu os cewch fwy na 2 lythyr atgoffa mewn blwyddyn ariannol, byddwch yn colli’ch hawl i dalu fesul rhandaliadau a byddwn yn anfon Rhybudd Terfynol atoch yn gofyn am y swm llawn sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn. 

Os na fyddwch yn talu’r swm hwn cyn pen 7 diwrnod ar ôl cael y Rhybudd Terfynol, neu os na fyddwn yn clywed gennych, byddwch yn cael gŵys a fydd yn golygu costau ychwanegol ar eich cyfrif hyd at £70.

Am fwy o wybodaeth ac i gael cyngor am ddim am ddyledion, edrychwch ar wefan GOV.UK

Fel arall, gallwch dderbyn Cyngor lleol am ddim drwy gysylltu â:


Beth i’w wneud os ydych chi wedi cael Ffurflen Cais am Wybodaeth

Os ydych wedi derbyn Gorchymyn Dyled ar gyfer Treth y Cyngor drwy’r post mae'n bwysig eich bod yn gweithredu ar unwaith.

Gallwch dalu yn llawn drwy ffonio ein llinell daliadau awtomataidd ar 08453 722724 neu ar-lein.

Cliciwch yma i dalu


Os na fyddwch yn gallu talu yn llawn mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen rydych wedi’i derbyn gyda’ch llythyr.

Neu, gellir cwblhau’r wybodaeth yn defnyddio ein ffurflen gais am wybodaeth ar-lein.

Gorchymyn Dyled Treth y Cyngor Cais Am Wybodaeth


Os byddai’n well gennych, gallwch gysylltu â gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 i roi eich manylion cyflogaeth ac incwm ac i drafod cytundeb talu neu i drefnu Gorchymyn Atafaelu Enillion ble mae’r gweddill yn cael ei ad-dalu i ni yn uniongyrchol gan eich cyflogwr o’ch cyflog.

Os na fyddwch yn talu ac na fyddwch yn talu’r gweddill i’r Cyngor o fewn 7 diwrnod o ddyddiad y Gorchymyn Dyled, bydd y gweddill yn cael ei drosglwyddo i Asiantwyr Gorfodi’r Cyngor ar gyfer ei gasglu. Os bydd Asiant Gorfodi yn cael ei ddefnyddio i orfodi’r Gorchymyn Dyled, gallai’r swm sy’n ddyledus gennych gynyddu’n sylweddol.

Gall y ffioedd rydych yn atebol amdanynt fod:

  • Ar gyfer pob gweddill Gorchymyn Dyled a weithredir ganddynt, bydd ffi o £75 yn daladwy iddyn nhw yn uniongyrchol.
  • Os bydd yn rhaid iddynt ymweld â’ch cartref i gasglu eich dyled, mae £235 pellach yn daladwy
  • Os bydd yn rhaid iddynt ymweld â chi a bod eich dyled dros £1,500, yna bydd cost ychwanegol o 7.5% o’r gweddill dros £1,500 yn daladwy gennych chi.
  • Os byddwch yn torri cytundeb a’u bod yn ymweld â’ch eiddo gyda cherbyd i symud eich nwyddau, mae costau £110 pellach yn daladwy yn uniongyrchol ganddyn nhw ynghyd â ffi ychwanegol o 7.5% o unrhyw weddill sy’n fwy na £1,500.


Asiantau Gorfodaeth

Gall y Cyngor gyfarwyddo Asiant Gorfodaeth i gasglu dyled Treth y Cyngor sydd heb ei thalu gennych chi os bydd gorchymyn dyled wedi'i gyflwyno yn eich enw chi. Byddwn yn gwneud hynny os nad ydych wedi paratoi cynllun ad-dalu, neu os nad ydych wedi cadw ato, neu os nad ydych wedi llenwi ac anfon yn ôl y ffurflen wybodaeth bersonol a anfonwyd atoch chi.

Bydd yr Asiant Gorfodaeth yn cysylltu â chi i drefnu i chi dalu’r ddyled, yn llawn neu bob yn dipyn. Mae’n rhaid i chi ateb eu lythyrau, ebostiau a galwadau ffôn a threfnu i dalu. Os yw eich dyled wedi’i hanfon at Asiant Gorfodaeth bydd yn rhaid i chi dalu ffi benodol o £75 am bob gorchymyn dyled pan gewch chi lythyr gan yr Asiant drwy'r post.

Ar ôl hynny, bydd yn rhaid talu, neu gynnig talu, i’r Asiant Gorfodaeth.


Ymweliad Gorfodaeth

Os na fyddwch yn trefnu i dalu’r Asiant Gorfodaeth, neu drefnu i dalu ac yna’n peidio â thalu, bydd yr Asiant yn ymweld â chi. Os ydyn nhw'n ymweld, mae yna ffi sefydlog o £235 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500.

Fel arfer bydd yr Asiant Gorfodaeth yn gofyn i chi dalu’r ddyled yn llawn.Ond os na allwch wneud hynny, bydd yr Asiant fel arfer yn gwneud trefniadau i chi ad-dalu. Gall yr Asiant Gorfodaeth wneud Cytundeb Nwyddau a Reolir, sy’n golygu y bydd yr Asiant yn paratoi rhestr o'r eiddo y mae eu gwerth yn cyfateb i'ch ddyled.

Os yw eich eiddo yn rhan o Gytundeb Nwyddau a Reolir chewch chi mo’u gwaredu na'u gwerthu heb ganiatâd yr Asiant Gorfodaeth.

Os na fyddwch yn llofnodi’r Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth gymryd eich eiddo pan fydd yn eich cartref. Mae yna gostau ychwanegol o £110 a 7.5% o unrhyw falans sy’n ddyledus dros £1500 os bydd eich eiddo’n cael ei symud a’i werthu.

Os na fyddwch yn talu yn ôl y cytundeb a’ch bod wedi llofnodi Cytundeb Nwyddau a Reolir, gall yr Asiant Gorfodaeth fynd i mewn i'ch cartref, drwy dorri i mewn os bydd raid, i gymryd yr eiddo a restrwyd.

Os yw’r Asiant Gorfodaeth o’r farn nad oes yna ddigon o eiddo i glirio’r ddyled, byddwn yn ystyried dulliau eraill o adfer y ddyled, megis methdaliad neu gorchymyn arwystlo yn erbyn eich cartref.

Rhybuddion Cwblhau

Pam rydw i wedi cael yr hysbysiad cwblhau hwn?

Mae’r Cyngor o’r farn bod eich eiddo, at ddibenion y dreth gyngor, naill wedi’i gwblhau i raddau helaeth neu ei bod yn rhesymol disgwyl i unrhyw waith sy’n weddill gael ei gwblhau yn ystod y 3 mis nesaf.


Sut ddaeth y Cyngor i’r casgliad hwn?

Ystyrir bod eiddo wedi’i gwblhau i raddau helaeth pan fydd yn bodloni’r meini prawf a ganlyn:

  • Mae’r strwythur sylfaenol wedi’i gwblhau, er enghraifft, mae’r holl waliau allanol a’r to yn eu lle.
  • Mae’r waliau mewnol wedi’u codi (er nad ydynt, o reidrwydd, wedi’u plastro).
  • Mae’r lloriau wedi’u gosod (er nad yw’r haen uchaf o goncrit , o reidrwydd, wedi’i osod).
  • Hyd yn oed os nad yw’r meini prawf uchod wedi’u bodloni’n llawn, gall y Cyngor gyflwyno hysbysiad os yw’n credu y gellir cwblhau unrhyw waith sy’n weddill cyn pen 3 mis.

Does dim angen i’r gwaith isod fod wedi’i gwblhau i ystyried bandio:

  • Peintio a phapuro’r tu mewn i’r eiddo.
  • Cwblhau’r gwaith o osod unedau yn yr ystafell ymolchi neu’r gegin
  • Gosod socedi a switshis trydanol yn derfynol
  • Cysylltu’r dŵr, y nwy a’r trydan (er bod yn rhaid i’r gwasanaethau fod ar y safle’n barod i’w cysylltu).

Sut all y Cyngor gyflwyno hysbysiad cwblhau at ddibenion y dreth gyngor os nad yw’r adran Rheoli Adeiladu neu’r Cyngor Adeiladu Tai Cenedlaethol wedi cwblhau eu hysbysiad cwblhau nhw?

Nid yw’r hysbysiadau cwblhau a gyflwynir at ddibenion y dreth gyngor yr un fath â’r hysbysiadau cwblhau a gyflwynir o dan Reoliadau Rheoli Adeiladu, gan fod gwahnol bwrpas iddynt. Hyd yn oed os nad yw Rheoliadau Rheoli Adeiladu wedi cyflwyno hysbysiad cwblhau, nid yw hynny’n atal y Cyngor rhag cyflwyno hysbysiad at ddibenion y dreth gyngor neu, os yw Rheoliadau Rheoli Adeiladu wedi cyflwyno hysbysiad cwblhau, gall y Cyngor anfon un arall sy’n nodi dyddiad gwahanol.

Hefyd, nid yw’r dyddiad cwblhau’n cyfeirio at y dyddiad y caiff yr eiddo ei werthu, ond yn hytrach at y dyddiad y mae wedi’u gwblhau’n strwythurol, sy’n digwydd, fel arfer, cyn y diwrnod y caiff ei werthu.


Ydi hyn yn golygu bod yn rhaid i mi ddechrau talu’r dreth gyngor yn awr?

Mae eiddo newydd, p’un a yw newydd ei adeiladu ynteu wedi’i greu drwy addasu eiddo blaenorol, wedi’i eithrio rhag taliadau’r dreth gyngor am hyd at chew mis os yw’n wag a heb ei ddodrefnu i bob pwrpas. Ar ôl chwe mis, os yw’r eiddo’n dal yn wag a heb ei ddodrefnu, rhaid talu’r tâl eiddo gwag yn llawn.

Felly, o’r dyddiad cwblhau, mae gan yr adeiladwr chew mis i osod neu i werthu’r eiddo newydd, cyn y bydd tâl yn ddyledus.


Y Swyddfa Brisio

I helpu’r Swyddfa Brisio i osod eiddo mewn band ar y diwrnod cywir, rydym yn anfon pob hysbysiad cwblhau atynt, ac unrhyw wybodaeth am hysbysiadau sydd wedi’u tynnu’n ôl neu am newidiadau yn y trefniadau.

Dyma fanylion cysylltu’r Swyddfa Brisio:

Y Swyddog Rhestru
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Canolfan Gwasanaethau Cwsmer Durham
Tŷ Wycliffe
lôn werdd
Durham
DH1 3UW

www.gov.uk/cymraeg


Apelio

Os ydych yn cytuno â’r dyddiad cwblhau rydym wedi’i gynnig, llenwch Ran A o’r Ymateb i’r Hysbysiad Cwblhau cyn pen 7 diwrnod.

Fodd bynnag, os ydych yn anghytuno, llenwch Ran B o’r Ymateb i’r Hysbysiad Cwblhau a gallwn ystyried y posibilrwydd o newid y dyddiad cwblhau:-

  • os nad yw’r adeilad wedi’i gwblhau
  • os nad yw’n rhesymol disgwyl ei gwblhau erbyn y dyddiad a nodwyd

Os na allwn gytuno ar ddyddiad cwblhau newydd, mae gennych hawl i apelio i Dribiwnlys Prisio Cymru.

Rhaid i chi wneud hyn cyn pen 4 wythnos ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad cwblhau, felly mae’n bwysig cysylltu â’r Cyngor cyn gynted â phosibl os ydych yn anghytuno â’r dyddiad cwblhau.

Os byddwch yn apelio, ac os nad yw’n cael ei wrthod neu ei dynnu’n ôl, y Tribiwnlys fydd yn penderfynu ar y dyddiad cwblhau.

Dyma fanylion cysylltu’r Tribiwnlys Prisio:

22 Gold Tops
Casnewydd
De Cymru
NP20 4PG

Ffôn: 01633 255 003
E-bost: correspondence@valuationtribunal.wales


Manylion cysylltu

Rhif ffôn: 01352 704848

E-bost: archwiliadau@siryfflint.gov.uk

Cyfeiriad: Cyngor Sir y Fflint,
                Gwasanaethau Refeniw,
                Neuadd y Sir,
                Yr Wyddgrug,
                CH7 6NA

Manylion Cyswllt

Gallwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol

Cysylltu â Ni Ar-lein


Trwy e-bost

Anfonwch e-bost at trethiant.lleol@siryfflint.gov.uk


Trwy ffonio

Gallwch ein ffonio rhwng 8.30am - 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Ein rhif ffôn yw 01352 704848.


Yn bersonol

Croeso i chi ymweld ag un o'n Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu ym Mwcle, Y Fflint, Cei Connah neu Dreffynnon

I gael gwybodaeth o ran oriau agor a chyfeiriadau, dilynwch y ddolen

Sir y Fflint yn Cysylltu

Hysbysiad Preifatrwydd

Beth yw dibenion prosesu eich gwybodaeth bersonol a phwy sy’n ei phrosesu?
Mae Cyngor Sir y Fflint, fel rheolwr data, yn casglu eich data personol er mwyn bilio, casglu a hawlio Treth y Cyngor.
 
Pa fath o wybodaeth sy’n cael ei chasglu?
• Manylion amdanoch chi a’ch partner, fel eich enw, cyfeiriad, manylion banc, data iechyd ac amgylchiadau personol.
• Manylion am bobl eraill sy’n byw gyda chi, fel eich plant ac oedolion eraill, yn cynnwys eu cyfeiriad, data iechyd ac amgylchiadau personol.
• Rhifau cyswllt a chyfeiriadau e-bost.

Sut mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio?
Bydd y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi yn y ffurflen hon, ac unrhyw dystiolaeth ategol rydych chi’n ei darparu, yn cael eu defnyddio i asesu eich atebolrwydd i dalu Treth y Cyngor, gan gynnwys unrhyw ostyngiadau, diystyrwch neu eithriadau mae gennych hawl iddynt.

Beth yw’r sail gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth?
Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 a’r holl reoliadau perthnasol eraill sy’n gysylltiedig ag asesu Treth y Cyngor.

Gyda phwy allwn ni rannu eich gwybodaeth?
Efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn sicrhau bod ein cofnodion yn gywir ac yn gyfredol, i wella safon y gwasanaethau rydym yn eu cynnig, a chyflawni unrhyw rai o’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys dyletswyddau gorfodi.

Efallai y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwirio’r wybodaeth rydych wedi'i darparu, neu wybodaeth amdanoch chi y mae rhywun arall wedi’i darparu, â gwybodaeth arall sydd gennym. Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch gan drydydd parti, neu’n rhoi gwybodaeth iddyn nhw er mwyn:
• sicrhau bod y wybodaeth yn gywir
• atal neu ganfod troseddau
• asesu neu gasglu unrhyw dreth neu dollau neu unrhyw ardrethiad o natur debyg 
• diogelu arian cyhoeddus.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich cofnodion?
Fe fyddwn yn cadw eich data drwy gydol y cyfnod rydych yn rhwymedig i dalu Treth y Cyngor ac am gyfnod o 7 mlynedd ar ôl i'ch rhwymedigaeth i dalu Treth y Cyngor ddod i ben.

Newidiadau i’ch amgylchiadau 
Mae dyletswydd arnoch i roi gwybod i’r tîm Treth y Cyngor yng Nghyngor Sir y Fflint am unrhyw newidiadau i’ch amgylchiadau. 
E-bost: local.taxation@flintshire.gov.uk

Manylion Cyswllt y Rheolwr Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Llywodraethu 
Cyngor Sir y Fflint 
Neuadd y Sir 
Yr Wyddgrug 
Sir y Fflint 
CH7 6NR 
E-bost: dataprotectionofficer@flintshire.gov.uk
 
Eich hawliau a rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx

Os ydych o’r farn bod Cyngor Sir y Fflint wedi cam-ddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan https://ico.org.uk neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.