Alert Section

1. Fframwaith Strategol

"Byddwn yn trin gwybodaeth a data fel ased corfforaethol allweddol i gefnogi gwneud penderfyniadau gwell a'r defnydd gorau o adnoddau."

Egwyddorion:

  • Deall rolau a chyfrifoldebau corfforaethol sy’n ymwneud â Rheoli Gwybodaeth a Data yn glir.
  • Deall y wybodaeth a’r data rydym yn eu cadw a’u gwerth i’r sefydliad.
  • Darparu sicrwydd bod diogelwch gwybodaeth yn cael ei reoli’n effeithio.
  • Gweithredu’n effeithiol ac yn dryloyw o fewn y fframweithiau cyfreithiol priodol.
  • Sicrhau bod ein gwybodaeth a data ar gael ble a phryd mae eu hangen.
  • Sicrhau bod ein gwybodaeth a data’n safonol er mwyn hwyluso rhannu ac ail-ddefnyddio.
Cam Gweithredu Fframwaith Strategol
RhifCam Gweithredu
1 Adnabod gweithwyr perthnasol ar draws y sefydliad sy’n ymgymryd â rôl rheoli gwybodaeth a diffinio eu rolau a’u cyfrifoldebau’n glir.
2 Meddu ar ddealltwriaeth dda o beth yw ein Hasedau Gwybodaeth a Data, ble maent yn cael eu cadw a phwy sy’n gyfrifol amdanynt.
3 Deall sut a ble mae data yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ar draws gwasanaethau’r Cyngor; yn cynnwys ble mae data’n cael ei ddyblygu a ble mae bylchau.  
4 Cwblhau a chadw achrediadau diogelwch gofynnol a pherthnasol a fydd yn rhoi sicrwydd i Aelodau Etholedig a chwsmeriaid Sir y Fflint bod dulliau arfer da yn tanategu Rheoli Gwybodaeth a Data corfforaethol.
5 Sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â Deddfwriaethau Rheoli Gwybodaeth perthnasol (e.e. GDPR, FOI, EIR ac ati).
6 Sicrhau bod gan y Cyngor gyfres lawn o bolisïau a gweithdrefnau Rheoli Gwybodaeth a Data wedi’u cymeradwyo a’u cyhoeddi, sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol a strategol.
7 Egluro’r fframwaith ar gyfer rhannu gwybodaeth a data ar draws y sefydliad a’i bartneriaid, i gefnogi gweithwyr a gwneud iddynt deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio gwybodaeth yn rhagweithiol ac yn briodol i wella gwasanaethau a chanlyniadau i gwsmeriaid. 
8 Parhau i ddatblygu dull y Cyngor o ran safoni data cyfeiriadau i allu gweld gwybodaeth eiddo mewn un lle.
9 Datblygu dull y Cyngor o ran safoni data cwsmeriaid i allu gweld gwybodaeth cwsmeriaid mewn un lle.
10 Gwell dealltwriaeth o lif gwybodaeth a data ar draws y sefydliad er mwyn i ni allu adnabod achosion o ddyblygu a rhannu ac ail-ddefnyddio gwybodaeth a data’n effeithiol.