Alert Section

3. Ymwybyddiaeth a Sgiliau

"Bydd gan bobl a sefydliadau hyder llwyr y bydd eu gwybodaeth a'u data'n cael eu trin yn gyfrifol, yn ddiogel ac yn foesegol, yn unol â'r ddeddfwriaeth Rheoli Gwybodaeth a Chofnodion briodol a gan ddilyn arfer gorau'r diwydiant perthnasol i Reoli Gwybodaeth a Diogelwch."

Egwyddorion:

  • Bydd pob gweithiwr wedi’i hyfforddi’n briodol yn y meysydd canlynol:
    • Seiberddiogelwch.
    • Cydymffurfiaeth Gwybodaeth.
    • Hyfforddiant ar systemau sy’n benodol i’w rolau.
  • Bydd gan weithwyr ddealltwriaeth glir o ba mor hir y dylem gadw gwybodaeth a data, a sut y dylem gael gwared arnynt neu eu cadw pan nad oes ganddynt ddefnydd busnes mwyach.
  • Bydd gweithwyr yn hyderus wrth rannu gwybodaeth yn briodol gyda phartneriaid a gwasanaethau eraill.
Cam Gweithredu Ymwybyddiaeth a Sgiliau 
RhifCam Gweithredu
1 Parhau’r sgwrs â gweithwyr allweddol ar draws y sefydliad ynglŷn â gwybodaeth a data yn gweithredu fel galluogwr allweddol o ran darpariaeth gwasanaeth effeithiol.  Cefnogi hyn â hyfforddiant Diogelu Data a seiberddiogelwch gorfodol i bob gweithiwr, wedi’i addasu yn ôl manylder a chymhlethdod eu rôl.
2 Cynyddu ymwybyddiaeth ar draws y sefydliad am drefn y broses archifo a chadw ar gyfer cofnodion ffisegol a chofnodion digidol.
3 Gwella ein gallu i ddarparu cyngor a chefnogaeth ymarferol i reolwyr ar draws y sefydliad er mwyn eu hannog i fod yn hyderus wrth ddefnyddio data i wella ansawdd ac effaith y gwasanaethau maent yn eu darparu.
4 Parhau i weithio gyda phartneriaid i gynnal dull rhagweithiol a’r arfer orau o ran diogelu ein gwybodaeth a’n data.