Alert Section

2. Technolegau a Systemau

"Byddwn yn darparu gwasanaeth gwell, di-dor gyda gwell deilliannau oherwydd bod gwybodaeth a data'n cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn arloesol."

Egwyddorion:

  • Byddwn yn croesawu technolegau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg.
  • Sicrhau bod ein systemau a’n gwasanaethau’n ddiogel yn ôl dyluniad.
  • Sicrhau bod ein systemau a’n gwybodaeth yn hygyrch.
  • Byddwn yn dylunio ffyrdd saff, diogel a defnyddiol o rannu gwybodaeth.
  • Datblygu a chyflawni datrysiadau sy’n bodloni safonau y cytunwyd arnynt.
Cam Gweithredu Technolegau a Systemau
RhifCam Gweithredu
1 Adolygu safonau datblygu system yn fewnol i sicrhau bod gwelliannau yn cefnogi rheoli gwybodaeth a data yn well yn y dyfodol, yn cynnwys safonau agored sy’n hwyluso rhannu gwybodaeth a data rhwng systemau, ar draws gwasanaethau a gyda’n partneriaid.
2 Gweithio gyda’n cyflenwyr i sicrhau bod eu systemau’n cefnogi ein gweledigaeth ac yn bodloni ein safonau gofynnol i alluogi galluoedd rhannu gwybodaeth ac integreiddio diogel, cydymffurfiol ac effeithiol.
3 Parhau i ddatblygu systemau sy’n cefnogi dull safonol a ‘mewn un lle’ ar gyfer ein data sy’n seiliedig eiddo a data sy’n seiliedig ar bobl.
4 Egluro sut mae’r sefydliad yn bwriadu rheoli isadeiledd hybrid ar y cwmwl ac ar y safle, o safbwynt rheoli gwybodaeth a data.
5 Sicrhau ein bod yn dilyn egwyddorion rheoli cofnodion cadarn o ran ein cofnodion gwybodaeth digidol a ffisegol, ac yn gwneud hynny o’u creu hyd at eu gwaredu.  
6 Gweithredu technolegau i gefnogi rheoli ac adrodd ar wybodaeth a data digidol (e.e., MS SharePoint, MS Power BI) yn effeithiol.