Alert Section

Newidiadau i Ddyddiau Casglu Biniau

O ddydd Llun 28 Ebrill 2025, mae eich casgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu yn newid

Gwastraff bwyd ac ailgylchu sych

Byddwn yn casglu eich gwastraff bwyd a’ch ailgylchu sych bob wythnos

Bag Glas
Bag Llwyd
Bocs Glas
Bin Gwyrdd
Batris o’r Cartref

Gwastraff gardd

Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn. 

Bin Brown

Gwastraff na ellir ei ailgylchu

Byddwn yn casglu eich gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos.

Bin Du

Byddwn hefyd yn casglu eich clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol a gwastraff clinigol bob wythnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaethau hyn.

Efallai y bydd eich diwrnod casglu yn newid hefyd.

Cyn i’r newidiadau ddigwydd lle rydych chi’n byw, byddwn yn danfon pecyn gwybodaeth i’ch cartref a chalendr yn dangos eich dyddiadau casglu newydd.

Hefyd, bydd modd lawrlwytho’r calendrau newydd yn fuan isod. 

Oeddech Chi'n Gwybod?

Gallwch gael cymaint o gynwysyddion ailgylchu ag sydd eu hangen arnoch! Gallwch gasglu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu rai newydd o'ch Canolfan Ailgylchu Cartref neu'ch Canolfan Gyswllt leol.

Ewch ati i ailgylchu eitemau

Mae yna lawer o eitemau nad yw pobl yn sylweddoli y gallant eu hailgylchu o gartref, fel batris o’r cartref a chartonau Tetra Pak!  

Beth i'w roi yn eich bin

Cwestiynau Cyffredin

1. Pa newidiadau ydych chi’n eu gwneud i gasgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu?

O ddydd Llun 28 Ebrill 2025, byddwn yn casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu o gartrefi bob tair wythnos, yn hytrach na bob pythefnos.

Fel rhan o’r newid hwn, ni fyddwn yn casglu ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ar ddyddiau Sadwrn mwyach. Mae hyn yn golygu y gallai eich diwrnod casglu newid hefyd.

Cyn i’r newidiadau ddigwydd lle rydych chi’n byw, byddwn yn danfon llythyr i’ch cartref yn cadarnhau’r newid a chalendr yn dangos eich dyddiadau casglu newydd.

Er y gallai eich diwrnod casglu newid, byddwn yn parhau i gasglu eich:

  • gwastraff bwyd ac ‘ailgylchu sych’ bob wythnos,
  • clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol bob wythnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn,
  • gwastraff clinigol bob wythnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, a
  • gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn.

Mae eich ‘ailgylchu sych’ yn cynnwys eich:

  • poteli a jariau gwydr,
  • metelau, plastigion a chartonau cymysg, gan gynnwys:
    • caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
    • poteli, potiau a thybiau plastig, a
    • cartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak),
  • cardfwrdd a phapur, a
  • batris o’r cartref.

2. Rydw i’n byw mewn fflat. A fydd y newid hwn yn effeithio arnaf i?

Os ydych yn byw mewn fflat, neu dŷ amlfeddiannaeth (hynny yw, tŷ neu fflat a rennir), gyda biniau cymunedol, byddwn yn gweithio gyda chi a’ch landlord i gyflwyno’r newid i’ch casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu yn ddiweddarach. Byddwn yn danfon llythyr i’ch cartref am unrhyw newidiadau i’ch casgliadau cyn iddynt ddigwydd.

3. Pam ydych chi’n gwneud y newid hwn i gasgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu?

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i gynghorau Cymru ailgylchu 70% o wastraff o’r cartref erbyn 2025. Ac er bod y gyfradd ailgylchu yn Sir y Fflint wedi gwella yn ystod y tair blynedd diwethaf, gan gynyddu o 60% i 63%, mae'n rhaid i ni barhau i ailgylchu mwy o'n gwastraff i gyrraedd y targed hwn ac osgoi gorfod talu dirwy drom. Yn seiliedig ar ein perfformiad ailgylchu presennol, rydym eisoes yn disgwyl cael dirwy o fwy na £1 miliwn am fethu â chyrraedd y targedau ailgylchu ar gyfer 2022/23.

Mae mwy nag 1 miliwn o gartrefi yn y DU eisoes yn derbyn casgliadau llai aml ar gyfer eu gwastraff na ellir ei ailgylchu ac mae hyn wedi arwain at welliannau i gyfraddau ailgylchu yn yr ardaloedd hynny.

Hefyd, mae data'n dangos y gallai 58% o'r eitemau a roddodd preswylwyr Sir y Fflint yn eu biniau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu fod wedi cael ei ailgylchu'n hawdd o'u cartrefi gan ddefnyddio ein casgliadau ailgylchu wythnosol neu drwy fynd â nhw i Ganolfan Ailgylchu Cartref leol. Os ydych chi’n sortio’ch gwastraff ac yn ailgylchu’r gorau y gallwch gan ddefnyddio’r casgliadau ailgylchu ar wahân rydyn ni’n eu darparu bob wythnos, bydd gennych lai o wastraff dros ben i’w roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

Drwy leihau pa mor aml rydym yn casglu eich gwastraff dros ben na ellir ei ailgylchu, byddwn hefyd yn lleihau’r pellter rydym yn teithio, sy’n lleihau faint o lygredd a allyrrir gan gerbydau ac yn lleihau ein hallyriadau carbon, sy’n helpu i atal newid hinsawdd.

Pan fyddwn yn ailgylchu ein deunyddiau gwastraff ailgylchadwy a’u troi’n eitemau newydd, rydym yn lleihau’r angen am ddeunyddiau newydd neu ddeunydd “crai” ac felly’n defnyddio llai o ynni. 

4. Sut ydych chi'n gwybod y byddwch yn casglu mwy o ailgylchu trwy wneud y newid hwn?

Ledled y Deyrnas Unedig, mae mwy nag 1 miliwn o aelwydydd eisoes yn cael casglu eu gwastraff na ellir ei ailgylchu gan eu cyngor lleol bob tair wythnos, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn ailgylchu yn yr ardaloedd hynny.

Pan gyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ei gyfyngiad ar gasgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu, llwyddodd i sicrhau cynnydd o 10% yn ei gyfradd ailgylchu.

A phan wnaeth Cyngor Sir Penfro newid tebyg, daeth hi’n sir ailgylchu orau Cymru.

Mae data’n dangos y gellid ailgylchu 58% o’r hyn y mae preswylwyr Sir y Fflint yn ei roi yn eu biniau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, felly rydym yn gwybod bod llawer o ailgylchu i ddod o’r biniau hyn o hyd. 

Os ydych chi’n sortio’ch gwastraff ac yn ailgylchu popeth y gallwch gan ddefnyddio ein casgliadau ailgylchu ar wahân bob wythnos, bydd gennych lai o wastraff dros ben i’w roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

5. A fydd fy niwrnod casglu’n newid?

O ddydd Llun 28 Ebrill 2025, ni fyddwn yn casglu ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu ar ddyddiau Sadwrn mwyach. Mae hyn yn golygu y gallai eich diwrnod casglu newid.

Cyn i’r newid ddigwydd lle rydych chi’n byw, byddwn yn danfon llythyr i’ch cartref yn cadarnhau’r newid a chalendr yn dangos eich dyddiadau casglu newydd. 

Gallwch hefyd wirio eich dyddiadau casglu yma.

6. Rydw i’n cael casgliad â chymorth ar hyn o bryd. A fydd hyn yn parhau?

Bydd. Os ydych wedi cofrestru ar gyfer casgliad â chymorth ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi ar eich diwrnod casglu.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer casgliad â chymorth, cliciwch yma.

7. Ar hyn o bryd rydw i'n derbyn casgliadau ar wahân ar gyfer clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol. A fydd hyn yn parhau?

Bydd. Os ydych yn derbyn casgliadau clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth hwn i chi bob wythnos.

Am ragor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer casgliadau clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol, cliciwch yma.

8. A fydd y bin yn newid?

Na, byddwch yn parhau i ddefnyddio eich bin du presennol ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Sicrhewch eich bod yn gosod eich bin wrth ymyl eich cynwysyddion ailgylchu eraill yn eich man casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu, yna casglwch eich holl gynwysyddion ar ôl i ni eu gwagio.

9. Beth mae eich ‘polisi gorfodaeth gwastraff gormodol’ yn ei olygu?

Fel rhan o’n polisi Gorfodi Gwastraff Gormodol presennol, rhaid i chi sicrhau bod eich holl wastraff na ellir ei ailgylchu yn ffitio i mewn i’ch bin. Mae hyn yn golygu na chewch chi roi gwastraff ychwanegol wrth ymyl eich bin, neu ar ei ben gan atal y caead rhag cau, ar eich diwrnod casglu. Gelwir hyn yn ‘wastraff gormodol’.

Cliciwch yma i ddarganfod beth fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi ‘gwastraff gormodol’ allan ar eich diwrnod casglu

Peidiwch â gwasgu eich gwastraff na ellir ei ailgylchu i mewn i’ch bin na’i lenwi â deunyddiau trwm iawn fel rwbel neu bridd, oherwydd efallai na fyddwn yn gallu ei godi i gasglu ei gynnwys.

Os oes gennych fwy o wastraff na ellir ei ailgylchu nag y gallwch ei ffitio yn eich bin, gallwch ddal eich gafael arno a'i roi allan ar eich diwrnod casglu nesaf, neu fynd ag ef i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

Os oes angen help arnoch i sortio eich gwastraff ac ailgylchu’n gywir, e-bostiwch ni ar GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 am gyngor ac arweiniad.

Os oes gennych chi chwech neu fwy o bobl yn byw yn eich cartref – a’ch bod chi’n teimlo eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch chi ond bod angen mwy o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu o hyd – gallwch wneud cais am fin mwy, maint 240 litr. Cliciwch yma i wneud cais am fin mwy ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234. Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais am fin mwy, byddwn yn asesu eich sefyllfa unigol ac efallai yn cyfnewid eich bin am un mwy, os ydych yn bodloni ein gofynion

10. Rydw i’n sortio fy ngwastraff yn barod ac yn ailgylchu popeth y gallaf. A fyddaf yn ymdopi gyda llai o gasgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu?

Mae data'n dangos y gellid yn hawdd ailgylchu 58% o’r hyn mae preswylwyr Sir y Fflint yn ei roi yn eu biniau ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu o'u cartrefi neu Ganolfan Ailgylchu Cartref leol. Unwaith y bydd yr holl wastraff bwyd, ailgylchu sych, clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol, a gwastraff gardd, wedi’u gwahanu a’u rhoi yn y cynwysyddion ailgylchu cywir, bydd gennych ddigon o le yn eich bin ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu dros ben, hyd yn oed pan fyddwn yn casglu’r gwastraff hwn o'ch cartref bob tair wythnos. 

Byddwn yn parhau i gasglu eich:

  • gwastraff bwyd ac ‘ailgylchu sych’ bob wythnos,
  • clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol bob wythnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn,
  • gwastraff clinigol bob wythnos, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, a
  • gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn.

Mae eich ‘ailgylchu sych’ yn cynnwys eich:

  • poteli a jariau gwydr (o’ch bocs glas),
  • metelau, plastigion a chartonau cymysg (o’ch bag llwyd amldro), gan  gynnwys:
    • caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel,
    • poteli, potiau a thybiau plastig, a
    • cartonau bwyd a diod (fel Tetra Pak),
  • cardfwrdd a phapur (o'ch bag glas amldro), a
  • batris o’r cartref (mewn bag plastig clir wedi'i adael ar ben, neu wrth ymyl, eich cynwysyddion ailgylchu eraill).

Os ydych yn creu mwy o ailgylchu nag y gallwch ei ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu presennol, neu os yw’ch un chi wedi torri neu wedi mynd ar goll, gallwch gasglu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu rai newydd o'ch Canolfan Ailgylchu Cartref neu'ch Canolfan Gyswllt leol

Gallwch fynd ag eitemau ailgylchadwy nad ydym yn eu casglu o’ch cartref, fel plastigion caled ac eitemau trydanol, i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i’w hailgylchu. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

Ac os oes angen i chi gael gwared ar eitemau swmpus o’r cartref sydd mewn cyflwr da – fel gwelyau a soffas, matresi, byrddau a chadeiriau, wardrobau, poptai a pheiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad a sychwyr dillad, ac isgarpedi a charpedi – efallai y byddwch am ystyried eu rhoi i deulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen/grŵp cymunedol lleol yn lle hynny. Gallwch hefyd gysylltu â’r elusen leol Refurbs Flintshire sy’n gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio o garreg eich drws am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Refurbs Flintshire ar 01352 734111. Fel arall, gallech eu hysbysebu ar eich gwefan Freecycle neu Freegle leol. 

Efallai y byddwch hefyd yn dewis archebu casgliad gwastraff swmpus. Cliciwch yma am wybodaeth am ein gwasanaeth casgliadau gwastraff swmpus neu ffoniwch ni ar 01352 701234.

Neu cewch fynd â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i'w hailgylchu.

11. Beth allaf ac na allaf ei roi yn fy min ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu?

Peidiwch â rhoi’r eitemau canlynol yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu, gan y gellir eu hailgylchu’n hawdd o gartref gan ddefnyddio ein gwasanaeth casgliadau ailgylchu wythnosol:

  • Gwastraff bwyd
  • Poteli a jariau gwydr
  • Caniau, tuniau, erosolau a ffoil metel
  • Poteli, potiau a thybiau plastig
  • Cartonau bwyd a diod, fel Tetra Pak
  • Cardfwrdd a phapur
  • Batris o’r cartref
  • Clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn)
  • Gwastraff clinigol (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn)

Byddwn hefyd yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn.

Gallwch fynd ag eitemau ailgylchadwy nad ydym yn eu casglu o’ch cartref, fel plastigion caled ac eitemau trydanol, i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i’w hailgylchu. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

14. Beth ddylwn ei wneud â bagiau a deunydd lapio plastig? 

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw fagiau plastig neu ddeunydd lapio, mae rhai o’r eitemau hyn yn cael eu derbyn mewn mannau ailgylchu ‘oddi cartref’ mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. Ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk i ddod o hyd i'ch man danfon agosaf.

Gall y mathau o eitemau a gaiff eu derbyn amrywio o un lleoliad i’r llall. Dilynwch y canllawiau a ddarperir gan bob sefydliad.

Os na allwch fynd â’r eitemau hyn i’ch archfarchnad leol, a bod angen i chi gael gwared arnynt gartref, rhowch nhw yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

15. Mae gen i ormod o ailgylchu. Beth ddylwn ei wneud?

Nid ydych wedi eich cyfyngu i un set o fagiau, biniau, bocsys a chadis amldro ar gyfer eich ailgylchu.  

Os ydych yn cynhyrchu mwy o ailgylchu nag y gallwch ei ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu presennol, neu os yw’ch un chi wedi torri neu wedi mynd ar goll, gallwch gasglu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu rai newydd o'ch Canolfan Ailgylchu Cartref neu'ch Canolfan Gyswllt leol.

Gallwch fynd ag eitemau ailgylchadwy nad ydym yn eu casglu o’ch cartref, fel plastigion caled ac eitemau trydanol, i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i’w hailgylchu. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

Ac os oes angen i chi gael gwared ar eitemau swmpus o’r cartref sydd mewn cyflwr da – fel gwelyau a soffas, matresi, byrddau a chadeiriau, wardrobau, poptai a pheiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad a sychwyr dillad, ac isgarpedi a charpedi – efallai y byddwch am ystyried eu rhoi i deulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen/grŵp cymunedol lleol yn lle hynny. Gallwch hefyd gysylltu â’r elusen leol Refurbs Flintshire sy’n gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio o garreg eich drws am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Refurbs Flintshire ar 01352 734111. Fel arall, gallech eu hysbysebu ar eich gwefan Freecycle neu Freegle leol.

Efallai y byddwch hefyd yn dewis archebu casgliad gwastraff swmpus. Cliciwch yma am wybodaeth am ein gwasanaeth casgliadau gwastraff swmpus neu ffoniwch ni ar 01352 701234.

Neu cewch fynd â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i'w hailgylchu.

16. A allaf i archebu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol?

Os ydych yn cynhyrchu mwy o ailgylchu nag y gallwch ei ffitio yn eich cynwysyddion ailgylchu presennol, neu os yw’ch un chi wedi torri neu wedi mynd ar goll, gallwch gasglu cynwysyddion ailgylchu ychwanegol neu rai newydd o'ch Canolfan Ailgylchu Cartref neu'ch Canolfan Gyswllt leol

17. Mae gen i deulu mawr. A allwn ni gael bin mwy?

Y maint bin safonol ar gyfer cartrefi gyda phump neu lai o bobl yw bin 180 litr.

Os oes gennych chi chwech neu fwy o bobl yn byw yn eich cartref – a’ch bod chi’n teimlo eich bod yn ailgylchu popeth y gallwch chi ond angen mwy o le ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu o hyd – gallwch wneud cais am fin mwy, maint 240 litr.

Cliciwch yma i wneud cais am fin mwy ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234. 

Unwaith y byddwn yn derbyn eich cais am fin mwy, byddwn yn asesu eich sefyllfa unigol ac efallai yn cyfnewid eich bin am un mwy, os ydych yn bodloni ein gofynion.

18. Mae gen i gyflwr meddygol ac rydw i’n cynhyrchu swm mawr o wastraff. Beth allaf ei wneud? 

Os hoffech gael gwared ar y gwastraff na ellir ei ailgylchu hwn yn amlach na phob tair wythnos, ewch â’r eitemau hyn i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim. Rhaid i chi sortio’r eitemau hyn a'u rhoi yn y sgipiau perthnasol. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

Rydym yn casglu gwastraff clinigol – fel gorchuddion, rhwymynnau, padiau anymataliaeth ac offer miniog – bob wythnos, o gartrefi sydd wedi’u cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff clinigol am ddim. I gael rhagor o wybodaeth neu i gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu gwastraff clinigol am ddim, e-bostiwch GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

19. Mae angen help arnaf i sortio fy ngwastraff ac ailgylchu’n gywir. A allwch chi fy helpu, os gwelwch yn dda?

Os oes angen help arnoch i sortio eich gwastraff ac ailgylchu’n gywir, e-bostiwch ni ar GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 am gyngor ac arweiniad.

ddarganfod pa wastraff o’r cartref y gallwch ac na allwch ei ailgylchu gartref, cliciwch yma. Fel arall, ewch i fwrw golwg ar ein Taflen Casgliadau wrth Ymyl y Palmant.

20. A fyddaf i’n derbyn gostyngiad Treth y Cyngor?

Na fyddwch. Swm bach iawn o’r Dreth Cyngor rydych chi'n ei thalu sy’n talu am gost y gwasanaethau casglu gwastraff ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu rydyn ni'n eu darparu.

Cliciwch yma am wybodaeth am eich Treth y Cyngor a’r hyn mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer

21. Nid yw fy ngwastraff ailgylchu a/neu wastraff na ellir ei ailgylchu wedi cael ei gasglu. Beth ddylwn ei wneud?

Sicrhewch fod eich gwastraff ailgylchu a/neu wastraff na ellir ei ailgylchu i fod i gael ei gasglu ar y diwrnod y byddwch wedi rhoi eich cynwysyddion allan i gael eu casglu. 

Byddwn yn casglu eich ailgylchu bob wythnos, a byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng mis Mawrth a mis Tachwedd, os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth taladwy hwn, a’ch gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos. Cliciwch yma i weld eich dyddiadau casglu.

Ar eich diwrnod casglu, mae’n bosibl y byddwn yn casglu cynnwys eich biniau ar unrhyw adeg hyd at 4pm. Os nad ydym wedi casglu cynnwys eich cynwysyddion erbyn 4pm, ac nid ydym wedi gosod unrhyw sticeri na thagiau arnynt, mae’n debygol ein bod wedi methu eich casgliad. Cliciwch yma i roi gwybod am gasgliad a fethwyd.

Os nad ydym wedi casglu cynnwys eich cynwysyddion, nac ychwaith wedi casglu cynnwys cynwysyddion eich cymdogion, edrychwch ar ein gwefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth am unrhyw amhariad ar ein gwasanaethau casglu.

Sylwch fod yna rai amgylchiadau pan na fyddwn wedi casglu cynnwys eich cynhwysydd(ion):

  1. Os byddwch yn rhoi gwastraff ychwanegol wrth ymyl eich bin, neu ar ei ben yn atal y caead rhag cau, gelwir hyn yn ‘wastraff gormodol’. Cliciwch yma i ddarganfod beth fydd yn digwydd os byddwch yn rhoi ‘gwastraff gormodol’ allan ar eich diwrnod casglu.
  2. Os byddwch yn rhoi unrhyw wastraff heblaw gwastraff gardd yn eich bin ar gyfer gwastraff gardd, fel rwbel, teiars, plastigion, polystyren, cardfwrdd neu wastraff DIY, ni fyddwn yn casglu ei gynnwys.
  3. Os rhowch eitemau na ellir eu hailgylchu yn unrhyw un o’ch cynwysyddion ailgylchu, fel polystyren neu fagiau plastig a deunydd lapio, ni fyddwn yn casglu eu cynnwys.
  4. Os ydym wedi rhoi sticer neu dag ar eich cynhwysydd, edrychwch arno a dilynwch y canllawiau. 

Os ydych yn ansicr pam nad ydym wedi casglu eich ailgylchu a/neu wastraff na ellir ei ailgylchu, neu pam ein bod wedi gosod sticer neu dag ar eich cynhwysydd, cliciwch yma.

22. A allaf i gael dirwy am beidio ailgylchu?

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb (a elwir yn ‘Ddyletswydd i Ofalu’) i sortio ein gwastraff a’i roi yn y cynwysyddion perthnasol er mwyn iddo allu cael ei gasglu a’i ailgylchu’n gywir.  

ddarganfod pa wastraff o’r cartref y gallwch ac na allwch ei ailgylchu gartref, cliciwch yma. Fel arall, ewch i fwrw golwg ar ein Taflen Casgliadau wrth Ymyl y Palmant.

Os oes angen help arnoch i sortio eich gwastraff ac ailgylchu’n gywir, e-bostiwch ni ar GwasanaethauStryd@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch ein tîm Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234 am gyngor ac arweiniad.

O dan Adran 46 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd (1990), gallwn roi dirwyon dan rai amgylchiadau lle mae preswylwyr yn torri ein polisïau gwastraff gormodol, sbwriel a thipio anghyfreithlon

23. Mae angen i mi gael gwared ar glytiau neu gynnyrch hylendid amsugnol. Ble dylwn i roi’r rhain?

Rydym yn casglu amrywiaeth o eitemau fel rhan o’n gwasanaeth casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol am ddim, sy’n cynnwys clytiau a chynnyrch gwastraff anymataliaeth, fel leinin, cadachau a hancesi papur, a phadiau amsugnol gwely a chadeiriau.

Rydym yn casglu'r gwastraff hwn bob wythnos o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu hwn. 

Os hoffech gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casgliadau clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol am ddim, cliciwch yma.

Nid ydym yn casglu nwyddau hylendid benywaidd, fel tywelion mislif, padiau leinin ysgafn a thamponau fel rhan o’n gwasanaeth casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol. Rhowch yr eitemau hyn mewn bag a'u rhoi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Os hoffech gael gwared ar yr eitemau hyn yn amlach na phob tair wythnos, ewch â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol

Gallwch leihau’r gwastraff rydych yn ei greu drwy newid o glytiau untro i glytiau go iawn.

Wyddoch chi fod babi cyffredin yn defnyddio 5,000 o glytiau, sy'n costio tua £1,500? Ac a wyddoch chi fod tua 200 miliwn o glytiau’n cael eu taflu yng Nghymru bob blwyddyn? 

Mae clytiau brethyn y gellir eu hailddefnyddio yn cynnig dewis arall ecogyfeillgar yn lle clytiau untro. Mae'r eitemau hyn yn gyfforddus, yn gallu arbed arian i chi, yn hawdd i'w defnyddio, ac yn lleihau faint o wastraff rydych chi'n ei gynhyrchu. 

Os ydych yn byw yn Sir y Fflint a bod gennych blentyn rhwng 0 a 18 mis oed, efallai y bydd gennych hawl i dalebau gwerth hyd at £75 i’w defnyddio fel rhandaliad i dalu am glytiau go iawn neu Wasanaeth Golchi Cewynnau Go Iawn. Am ragor o wybodaeth am ein Cynllun Cewynnau Go Iawn, cliciwch yma. 

24. Mae gen i lawer o wastraff anifeiliaid anwes. Ble dylwn ei roi?

Ni ellir ailgylchu gwastraff anifeiliaid. Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw faw anifeiliaid, rhowch ef yn y bag a'i roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys gwasarn cathod.

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw fatiau toiled cŵn bach, rhowch nhw yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

Os yw'ch anifail anwes yn 'llysysydd', yn bwyta bwydydd sy'n blanhigion yn unig – fel cwningod, moch cwta, crwbanod a gerbilod – gallwch chi roi ei ddeunydd gwely mewn unrhyw fin compost neu ar unrhyw domen gompost sydd gennych, neu ei ychwanegu at eich bin gwastraff gardd, cyn belled â'i fod yn lân a heb faw anifail arno.

25. A fydd casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu yn llai aml yn achosi arogleuon, pryfed, plâu neu fermin?

Mae problemau gydag arogleuon, pryfed, plâu a fermin yn cael eu hachosi'n bennaf gan wastraff bwyd yn pydru. Mae gwastraff bwyd yn cyfrif am gyfran fawr o’r gwastraff rydym yn ei gynhyrchu gartref, a thrwy ei wahanu oddi wrth eich gwastraff na ellir ei ailgylchu a’i roi yn eich cadi gwastraff bwyd i ni ei gasglu bob wythnos, does dim llawer o amser i unrhyw broblemau ddatblygu. 

Rydym yn darparu bagiau leinio cadis gwastraff bwyd am ddim, a gellir cloi cadis gwastraff bwyd hefyd, sy'n gwneud storio gwastraff bwyd rhwng casgliadau wythnosol yn fwy glân na'i roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu i'w gasglu bob tair wythnos.

Os ydych chi neu rywun yn eich cartref yn defnyddio clytiau neu gynnyrch hylendid amsugnol, rydym yn deall bod yr eitemau hyn yn creu arogleuon dros amser. Rydym yn casglu'r gwastraff hwn bob wythnos o gartrefi sydd wedi'u cofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol am ddim. Os hoffech gofrestru ar gyfer ein gwasanaeth casglu clytiau a chynnyrch hylendid amsugnol am ddim, cliciwch yma. 

Rhowch unrhyw wastraff arall a all greu arogleuon, fel baw anifeiliaid neu fathau eraill o wastraff hylendid, fel nwyddau hylendid benywaidd, mewn bag cyn ei roi yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Os hoffech gael gwared ar yr eitemau hyn yn amlach, ewch â nhw i’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim. Cliciwch yma i weld a oes angen trwydded arnoch, beth allwch ei roi yno, ac a oes angen i chi drefnu ymlaen llaw ar gyfer ymweld â’ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol.

26. A fydd casglu gwastraff na ellir ei ailgylchu bob tair wythnos yn arwain at gynnydd mewn tipio anghyfreithlon?

Dydyn ni ddim yn credu y bydd hyn yn digwydd. Mae llawer o gynghorau eisoes wedi cyflwyno newidiadau tebyg i leihau amlder casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ac nid yw data yn dangos unrhyw gysylltiad â chynnydd mewn tipio anghyfreithlon. 

Nid oes byth esgus dros dipio anghyfreithlon, ac nid oes gennym unrhyw reswm i gredu y bydd y rhan fwyaf o breswylwyr Sir y Fflint yn dechrau torri’r gyfraith yn y modd hwn.

Yr eitemau mwyaf cyffredin sy’n cael eu tipio’n anghyfreithlon yw eitemau swmpus neu wastraff masnachol, ac nid ydym yn casglu’r naill na’r llall fel rhan o’n casgliadau ailgylchu a gwastraff na ellir ei ailgylchu domestig arferol.

Os ydych yn defnyddio ein gwasanaethau casglu gwastraff bwyd ac ailgylchu arall bob wythnos, bydd digon o le yn eich bin ar gyfer eich gwastraff na ellir ei ailgylchu gweddilliol. 

Ac os oes angen i chi gael gwared ar eitemau swmpus dieisiau o’r cartref – fel gwelyau a soffas, matresi, byrddau a chadeiriau, wardrobau, poptai a pheiriannau golchi llestri, oergelloedd, rhewgelloedd, peiriannau golchi dillad a sychwyr dillad, ac isgarpedi a charpedi – gallwch:

  • ystyriwch eu rhoi i deulu, ffrindiau, cymdogion neu elusen/grŵp cymunedol lleol, os yw eich eitemau mewn cyflwr da. Gallwch hefyd gysylltu â’r elusen leol Refurbs Flintshire sy’n gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio o garreg eich drws am ddim. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Refurbs Flintshire ar 01352 734111. Fel arall, gallech eu hysbysebu ar eich gwefan Freecycle neu Freegle leol;
  • archebu casgliad gwastraff swmpus. Cliciwch yma am wybodaeth am ein gwasanaeth casgliadau gwastraff swmpus neu ffoniwch ni ar 01352 701234; neu
  • ewch â'r eitemau hyn i'ch Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim, i'w hailgylchu.

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i leihau ein heffaith ar ein hamgylchedd. Os gwelwch chi unrhyw un yn tipio’n anghyfreithlon, riportiwch hynny i ni

Mae tipio gwastraff yn anghyfreithlon, a byddwn yn erlyn unrhyw un sy'n cael ei ddal yn cyflawni'r drosedd hon.

27. Beth os bydd rhywun arall yn rhoi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn fy min, sydd wedyn yn ei orlenwi?

Pan fo’n bosibl, cadwch eich bin ar eich eiddo’ch hun, a’i roi allan wrth ymyl eich cynwysyddion ailgylchu eraill yn eich man casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu, yna casglwch eich bin ar ôl i ni ei wagio. Dylai hyn helpu i atal eraill rhag rhoi eu gwastraff yn eich bin.

Os bydd rhywun yn rhoi eu gwastraff yn eich bin heb eich caniatâd, cysylltwch â ni. Byddwn yn delio gydag unrhyw gwynion a dderbyniwn am y mater hwn. 

28. Beth arall allaf ei ailgylchu yn Sir y Fflint?

Gallwch ailgylchu amrywiaeth eang o ddeunyddiau yn eich Canolfan Ailgylchu Cartref leol am ddim.

Os oes angen i chi gael gwared ar unrhyw fagiau plastig neu ddeunydd lapio, mae rhai o’r eitemau hyn yn cael eu derbyn mewn mannau ailgylchu ‘oddi cartref’ mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. Ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk i ddod o hyd i'ch man danfon agosaf. Gall y mathau o eitemau a gaiff eu derbyn amrywio o un lleoliad i’r llall. Dilynwch y canllawiau a ddarperir gan bob sefydliad. Os na allwch fynd â’r eitemau hyn i’ch archfarchnad leol, a bod angen i chi gael gwared arnynt gartref, rhowch nhw yn eich bin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. 

 

Mae eich ailgylchu yn gwneud gwahaniaeth MAWR yn Sir y Fflint. Diolch i chi am barhau i wneud y peth iawn a chwarae eich rhan dros yr amgylchedd, drwy sortio eich gwastraff ac ailgylchu cymaint ag y gallwch.